Llyfr Eseia 64:11
tŷ ein sancteiddrwydd a’n harddwch ni, lle y moliannai ein tadau dydi, a losgwyd â thân; a’n holl bethau dymunol sydd yn anrhaith. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
10Dy sanctaidd ddinasoedd sydd anial¬wch; Seion sydd yn ddiffeithwch, a Jerwsalem yn anghyfannedd. º
12A ymateli di, ARGLWYDD, wrth y pethau hyn? a dewi di, ac a gystuddi di ni yn ddirfawr?
Cross References
1 Kings 8:56Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD, yr hwn a roddes lonyddwch i’w bobl Israel, yn ôl yr hyn oll a lefarodd efe: ni syrthiodd un gair o’i holl addewidion da ef, y rhai a addawodd efe trwy law Moses ei was. º
2 Chronicles 6:4Ac efe a ddywedodd, Bendigedig fyddo ARGLWYDD DDUW Israel, yr hwn a lefarodd â’i enau wrth Dafydd fy nhad, ac a gwblhaodd â’i ddwylo, gan ddywedyd,
2 Chronicles 7:6A’r offeiriaid oedd yn sefyll yn eu goruchwyliaeth: a’r Lefiaid ag offer cerdd yr ARGLWYDD, y rhai a wnaethai Dafydd y brenin i gyffesu yr ARGLWYDD, oherwydd yn dragywydd y mae ei drugaredd ef, pan oedd Dafydd yn moliannu Duw trwyddynt hwy: a’r offeiriaid oedd yn utganu ar eu cyfer hwynt, a holl Israel oedd yn sefyll.
2 Chronicles 36:19A hwy a losgasant dŷ DDUW, ac a ddistrywiasant fur Jerwsalem; a’i holl balasau hi a losgasant hwy a thân, a’i holl lestri dymunol a ddinistriasant.
Jeremiah 52:13Ac efe a losgodd d yr ARGLWYDD, a thŷ y brenin; a holl dai Jerwsalem, a pho’o tŷ mawr, a losgodd efe â thân. º