Llyfr Eseia 64
1ONA rwygit y nefoedd, a disgyn, fel y toddai’r mynyddoedd o’th flaen di, º
2Fel pan losgo’r tân greision, y pair y tân i’r dwfr ferwi; i hysbysu dy enw i’th wrthwynebwyr, fel yr ofno’r cenhedloedd rhagot! º
3Pan wnaethost bethau ofnadwy ni ddisgwyliasom amdanynt, y disgynnaist, a’r mynyddoedd a doddasant o’th flaen. º
4Ac erioed ni chlywsant, ni dderbyniasant a chlustiau, ac ni welodd llygad, O DDUW, ond tydi, yr hyn a ddarparodd efe i’r neb a ddisgwyl wrtho. º
5Cyfarfyddi a’r hwn sydd lawen, ac a wna gyfiawnder; y rhai yn dy ffyrdd a’th gofiant di: wele, ti a ddigiaist, pan bechasom: ynddynt hwy y mae para, a ni a fyddwn cadwedig. º
6Eithr yr ydym ni oll megis peth aflan, ac megis bratiau budron yw ein holl gyfiawnderau; a megis deilen y syrthia- som ni oll; a’n hanwireddau, megis gwynl, a’n dug ni ymaith. º
7Ac nid oes a alwo ar dy enw, nac a ymgyfyd i ymaflyd ynot: canys cuddiaist dy wyneb oddi wrthym; difeaist ni, oherwydd ein haawireddau. º
8Ond yn awr, 0 ARGLWYDD, ein Tad ni ydwyt ti: nyni ydym glai, a thithau yw ein lluniwr ni; ie, gwaith dy law ydym ni oll. º
9Na ddigia, ARGLWYDD, yn ddirfawr, ac na chofia anwiredd yn dragywydd: wele, edrych, atolwg, dy bobl di ydym ni oll. º
10Dy sanctaidd ddinasoedd sydd anial¬wch; Seion sydd yn ddiffeithwch, a Jerwsalem yn anghyfannedd. º
11tŷ ein sancteiddrwydd a’n harddwch ni, lle y moliannai ein tadau dydi, a losgwyd â thân; a’n holl bethau dymunol sydd yn anrhaith. º
12A ymateli di, ARGLWYDD, wrth y pethau hyn? a dewi di, ac a gystuddi di ni yn ddirfawr?