Llyfr Eseia 65:2
Estynnais fy llaw ar hyd y dydd at bobl wrthryfelgar, y rhai a rodient y ffordd nid oedd dda, yn ôl eu meddyliau eu hun; º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Numbers 15:39A bydded i chwi yn rhidens, i edrych arno, ac i gofio holl orchymynion yr Arglwydd, ac i’w gwneuthur hwynt; ac na chwiliwch yn ol eich calonnau eich hunain, nac yn ol eich llygaid eich hunain, y rhai yr ydych yn puteinio ar eu hol:
Deuteronomy 29:19A bod, pan glywo efe eiriau y felldith hon, ymfendithio o hono yn ei galon ei hun, gan ddywedyd, Heddwch fydd i mi, er i mi rodio y’nghyndynrwydd fy nghalon, i chwanegu meddwdod at syched:
Psalms 36:4Cywilyddier a gwaradwydder y rhai a geisiant fy enaid: ymchweler yn eu hôl a gwarthaer y sawl a fwriadant fy nrygu.
Psalms 81:11Hi a estynnodd ei changau hyd y môr, a’i blagur hyd yr afon.
Proverbs 16:29Gŵr traws a huda ei gymydog, ac a’i tywys i’r ffordd nid yw dda.
Isaiah 1:23Dy dywysogion sydd gyndyn, ac yn gyfranogion a lladron; pob un yn cam rhoddion, ac yn dilyn gwobrau: ni farnant yr amddifad, a chŵyn y weddw ni chaiff ddyfod atynt.