The Bible Software
Llythyr Iago · Beibl (1620)

Llythyr Iago 4

1O ba le y mae rhyfeloedd ac ymladdau yn eich plith chwi? onid oddi wrth hyn, sef eich melyschwantau y rhai sydd yn rhyfela yn eich aelodau?

2Chwenychu yr ydych, ac nid ydych yn cael: cenfigennu yr ydych ac eiddigeddu, ac nid ydych yn gallu cyrhaeddyd: ymladd a rhyfela yr ydych, ond nid ydych yn cael, am nad ydych yn gofyn.

3Gofyn yr ydych, ac nid ydych yn derbyn, oherwydd eich bod yn gofyn ar gam, fel y galloch eu treulio ar eich melyschwantau.

4Chwi odinebwyr a godinebwragedd, oni wyddoch chwi fod cyfeillach y byd yn elyniaeth i Dduw? pwy bynnag gan hynny a ewyllysio fod yn gyfaill i’r byd, y mae’n elyn i Dduw.

5A ydych chwi yn tybied fod yrysgrythur yn dywedyd yn ofer. At genfigen y mae chwant yr ysbryd a gartrefa ynom ni?

6Eithr rhoddi gras mwy y mae: oherwydd paham y mae yn dywedyd, Y mae Duw yn gwrthwynebu’r beilchion, ond yn rhoddi gras i’r rhai gostyngedig.

7Ymddarostyngwch gan hynny i Dduw. Gwrthwynebwch ddiafol, ac efe a ffy oddi wrthych.

8Nesewch at Dduw, ac efe a nesa atoch chwi. Glanhewch eich dwylo, chwi bechaduriaid; a phurwch eich calonnau, chwi â’r meddwl dauddyblyg.

9Ymofidiwch, a galerwch, ac wylwch: troer eich chwerthin chwi yn alar, a’ch llawenydd yn dristwch.

10Ymddarostyngwch gerbron yr Arglwydd, ac efe a’ch dyrchafa chwi.

11Na ddywedwch yn erbyn eich gilydd, frodyr. Y neb sydd yn dywedyd yn erbyn ei frawd, ac yn barnu ei frawd, y mae efe yn dywedyd yn erbyn y gyfraith, ac yn barnu’r gyfraith: ac od wyt ti yn barnu’r gyfraith, nid wyt ti wneuthurwr y gyfraith, eithr barnwr.

12Un gosodwr cyfraith sydd, yr hwn a ddichon gadw a cholli. Pwy wyt ti yr hwn wyt yn barnu arall?

13Iddo yn awr, y rhai ydych yn dywedyd, Heddiw neu yfory ni a awn i gyfryw ddinas, ac a arhoswn yno flwyddyn, ac a farchnatawn, ac a enillwn:

14Y rhai ni wyddoch beth a fydd yfory. Canys beth ydyw eich einioes chwi? Canys tarth ydyw, yr hwn sydd dros ychydig yn ymddangos, ac wedi hynny yn diflannu.

15Lle y dylech ddywedyd, Os yr Arglwydd a’i myn, ac os byddwn byw, ni a wnawn hyn, neu hynny.

16Eithr yn awr gorfoleddu yr ydych yn eich ymffrost: pob cyfryw orfoledd, drwg ydyw.

17Am hynny i’r neb a fedr wneuthur daioni, ac nid yw yn ei wneuthur, pechod ydyw iddo.

← Llythyr Iago 3Read In The App, Free →Llythyr Iago 5 →

Study Llythyr Iago 4

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeAlbert BarnesJohn WesleyJohn CalvinScofieldWilliam BurkittFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345