Llythyr Iago 5:4
Wele, y mae cyflog y gweithwyr, a fedasant eich meysydd chwi, yr hwn a gamataliwyd gennych, yn llefain: a llefain y rhai a fedasant a ddaeth i mewn i glustiau Arglwydd y lluoedd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 2:23¶ Ac yn ol dyddiau lawer, bu farw brenhin yr Aipht; a phlant Israel a ucheneidiasant oblegid y caethiwed, ac a waeddasant; a’u gwaedd hwynt a ddyrchafodd at Dduw, oblegid y caethiwed.
Exodus 22:22¶ Na chystuddiwch un weddw, nac amddifad.
Leviticus 19:13¶ Na cham-atal oddi wrth dy gymmydog, ac nac yspeilia ef: na thriged cyflog y gweithiwr gyd â thi hyd y bore.
Job 7:2Megis y dyhea gwas am gysgod, ac y disgwyl cyflogddyn wobr ei waith:
Job 31:38Os ydyw fy nhir i yn llefain yn fy erbyn, ac os ydyw ei gwysau ef yn cydwylo;