Llythyr Iago 5:3
Eich aur a’ch arian a rydodd; a’u rhwd hwynt a fydd yn dystiolaeth yn eich erbyn chwi, ac a fwyty eich cnawd chwi fel tân. Chwi a gasglasoch drysor yn y dyddiau diwethaf.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
2Eich cyfoeth a bydrodd, a’ch gwisgoedd a fwytawyd gan bryfed.
Cross References
Genesis 31:48A Laban a ddywedodd, Y garnedd hon sydd dyst rhyngof fi a thithau heddyw: am hynny y galwodd Jacob ei henw hi Galeed,
Genesis 49:1ac yn marw. Yna y galwodd Jacob ar ei feibion, ac a ddywedodd, Ymgesglwch, fel y mynegwyf i chwi yr hyn a ddigwydda i chwi yn y dyddiau diweddaf.
Joshua 24:27A Josua a ddywedodd wrth yr holl bobl, Wele, y maen hwn fydd yn dystiolaeth i ni; canys efe a glywodd holl eiriau yr Arglwydd, y rhai a lefarodd efe wrthym: am hynny y bydd efe yn dystiolaeth i chwi, rhag i chwi wadu eich Duw.
Job 16:8A chroengrychaist fi, a hynny sydd dystiolaeth: a’m culni yn codi ynof, a dystiolaetha yn fy wyneb.
Jeremiah 19:9A mi a baraf iddynt fwyta cnawd eu meibion, a chnawd eu merched, bwytant hefyd bob un gnawd ei gyfaill, yn y gwarchae a’r cyfyngder, a’r hwn y cyfynga eu gelynion, a’r rhai sydd yn ceisio eu heinioes, arnynt. º
Micah 4:1A bydd yn niwedd y dyddiau, i fynydd tŷ yr ARGLWYDD fod wedi ei sicrhau ym mhen y mynyddoedd; ac efe a ddyrchefir goruwch y bryniau; a phobloedd a ddylifant ato.