Llyfr Jeremeia 13:14
Trawaf hwy y naill wrth y llall, y tadau a’r meibion ynghyd, medd yr AR¬GLWYDD: nid arbedaf, ac ni thrugarhaf, ac ni resynaf, ond eu difetha hwynt.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
15Clywch, a gwrandewch; na falchiwch: canys yr ARGLWYDD a lefarodd.
Cross References
Judges 7:20A’r tair byddin a utganasant mewn utgyrn, ac a ddrylliasant y piserau, ac a ddaliasant y lampau yn eu llaw aswy, a’r utgyrn yn eu llaw ddeau i utganu: a hwy a lefasant, Cleddyf yr ARGLWYDD a Gedeon.
2 Chronicles 20:23Canys meibion Ammon a Moab a gyfodasant yn erbyn trigolion mynydd Seir, i’w difrodi, ac i’w difetha hwynt: a phan orffenasant hwy drigolion Seir, hwy a helpiasant ddifetha pawb ei gilydd.
Isaiah 9:20Ac efe a gipia ar y llaw ddeau, ac a newyna; bwyty hefyd ar y llaw aswy, ac nis digonir hwynt: bwytânt bawb gig ei fraich ei hun: º
Jeremiah 6:21Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Wele fi yn rhoddi tramgwyddiadau i’r bobl hyn, fel y tramgwyddo wrthynt y tadau a’r meibion ynghyd; cymydog a’i gyfaill a ddifethir.
Jeremiah 16:5Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Na ddos i dŷ y galar, ac na ddos i alaru, ac na chwyna iddynt: canys myfi a gymerais ymaith fy heddwch oddi wrth y bobl hyn, medd yr ARGLWYDD, seftrugaredd a thosturi. º
Jeremiah 21:7Ac wedi hynny, medd yr ARGLWYDD, y rhoddaf Sedeceia brenin Jwda, a’i weision, a’r bobl, a’r rhai a weddillir yn y ddinas hon, gan yr haint, gan y cleddyf, a chan y newyn, i law Nebuchodonosor brenin Babilon, ac i law eu gelynion, ac i law y rhai sydd yn ceisio eu heinioes: ac efe a’u tery hwynt â min y cleddyf; lu thosturia wrthynt, ac nid erbyd, ac ni chymer drugaredd. º