Llyfr Jeremeia 17:21
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Disgwyliwch ar eich eneidiau, ac na ddygwch faich ar y dydd Saboth, ac na ddygwch ef i mewn trwy byrth Jerw¬salem; º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Numbers 15:32¶ Fel yr ydoedd meibion Israel yn y diffaethwch, cawsant wr yn cynnutta ar y dydd Sabbath.
Deuteronomy 4:15Gwyliwch gan hynny yn ddyfal ar eich eneidiau, (oblegid ni welsoch ddim llun yn y dydd y llefarodd yr Arglwydd wrthych yn Horeb, o ganol y tân,)
Deuteronomy 11:16Gwyliwch arnoch rhag twyllo eich calon, a chilio o honoch, a gwasanaethu duwiau dïeithr, ac ymgrymmu iddynt;
Nehemiah 13:15Yn y dyddiau hynny y gwelais yn Jwda rai yn sengi gwinwryfau ar y Saboth, ac yn dwyn i mewn ysgubau ŷd, ac yn llwytho asynnod, gwin hefyd, a grawnwin, a ffigys, a phob beichiau, ac yn eu dwyn i Jerwsalem ar y dydd Saboth: a mi a dystiolaethais yn eu herbyn ar y dydd y gwerthasant luniaeth.
Proverbs 4:23Cadw dy galon yn dra diesgeulus; canys allan ohoni y mae bywyd yn dyfod.
Jeremiah 17:22Ac na ddygwch faich allan o’ch tai ar y dydd Saboth, ac na wnewch ddim gwaith; eithr sancteiddiwch y dydd Saboth, fel y gorchmynnais i’ch tadau. º