Llyfr Jeremeia 17
1PECHOD Jwda a ysgrifennwyd a phin o haearn, ag ewin o adamant y cerfiwyd ef ar lech eu calon, ac ar gyrn eich allorau; º
2Gan fod eu meibion yn cofio eu hall-orau a’u llwyni wrth y pren deiliog ar y bryniau uchel. º
3O fy mynydd yn y maes, dy olud a’th holl drysorau di a roddaf yn anrhaith, a’th uchelfeydd i bechod, trwy dy holl derfynau. º
4Ti a adewir hefyd dy hunan, heb dy etifeddiaelh a roddais i ti; a mi a wnafi ti wasanaethu dy elynion mewn tir ni,dxxxx adwaenost: canys cyneuasoch dân yn fy nig, yr hwn a lysg byth. º
5Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Melltigedig fyddo y gŵr a hydero mewn dyn, ac a wnelo gnawd yn fraich iddo, a’r hwn y cilio ei galon oddi wrth yr AR¬GLWYDD. º
6Canys efe a fydd fel y grug yn y diffeithwch, ac ni wel pan ddêl daioni; eithr efe a gyfanhedda boethfannau yn yr anialwch, mewn tir hallt ac anghyf-anheddol. º
7Bendigedig yw y gŵr a ymddiriedo yn yr ARGLWYDD, ac y byddo yr AR¬GLWYDD yn hyder iddo. -
8Canys efe a fydd megis pren wedi ei blannu wrth y dyfroedd, ac a estyn ei wraidd wrth yr afon, ac ni ŵyr oddi wrth ddyfod gwres; ei ddeilen fydd ir, ac ar flwyddyn sychder ni ofala, ac ni phaid a ffrwytho. º
9Y galon sydd fwy ei thwyll na dim, a drwg ddiobaith ydyw; pwy a’i hedwyn? º
10Myfi yr ARGLWYDD sydd yn chwilio’r galon, yn profi’r arennau, i roddi i bob un yn ôl ei ffyrdd, ac yn ôl ffrwyth ei weithredoedd. º
11Fel petris yn eistedd, ac heb ddeor, yw yr hwn a helio gyfoeth yn annheilwng: yn hanner ei ddyddiau y gedy hwynt, ac yn ei ddiwedd ynfyd fydd. º
12Gorsedd ogoneddus ddyrchafedig o’r dechreuad, yw lle ein cysegr ni. º
13Oarglwydd, gobaith Israel, y rhai oll a’th wrthodant a waradwyddir, ysgrif-ennir yn y ddaear y rhai a giliant oddi wrthyf, am iddynt adael yr ARGLWYDD, ffynnon y dyfroedd byw. º
14lacha fi, O ARGLWYDD, a mi a iacheir; achub fi, a mi a achubir: canys tydi yw fy moliant. º
15Wele hwynt yn dywedyd wrthyf, Pa le y mae gair yr ARGLWYDD? deued bellach. º
16Ond myfi ni phrysurais rhag bod yn fugail ar dy ôl di: ac ni ddymunais y dydd blin, ti a’i gwyddost: yr oedd yr hyn a ddaeth o’m gwefusau yn uniawn ger dy fron di. º
17Na fydd yn ddychryn i mi; ti yw fy ngobaith yn nydd y drygfyd. º
18Gwaradwydder fy erlidwyr, ac na’m gwaradwydder i; brawycher hwynt, ac na’m brawycher i: dwg arnynt ddydd drwg, a dryllia hwynt a drylliad dauddyb- lyg. º
19Fel hyn y dywedodd yr AR¬GLWYDD wrthyf, Cerdda, a safym mhorth meibion y bobl, trwy yr hwn yr a brenhinoedd Jwda i mewn, a thrwy yr hwn y deuant allan, ac yn holl byrth Jerwsalem; º
20A dywed wrthynt, Gwrandewch air yr ARGLWYDD, brenhinoedd Jwda, a holl Jwda, a holl breswylwyr Jerwsalem, y rhai a ddeuwch trwy y pyrth hyn: º
21Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Disgwyliwch ar eich eneidiau, ac na ddygwch faich ar y dydd Saboth, ac na ddygwch ef i mewn trwy byrth Jerw¬salem; º
22Ac na ddygwch faich allan o’ch tai ar y dydd Saboth, ac na wnewch ddim gwaith; eithr sancteiddiwch y dydd Saboth, fel y gorchmynnais i’ch tadau. º
23Ond ni wrandawsant, ac ni ogwyddasant eu dust; eithr caledasant eu gwarrau rhag gwrando, a rhag derbyn addysg. º
24Er hynny os dyfal wrandewch arnaf, medd yr ARGLWYDD, heb ddwyn baich trwy byrth y ddinas hon ar y dydd Saboth, find sancteiddio y dydd Saboth, heb wneuthur dim gwaith arno: º
25Yna y daw trwy byrth y ddinas hon, frenhinoedd a thywysogion yn eistedd ar orsedd Dafydd, yn marchogaeth mewn cerbydau, ac ar feirch, hwy a’u tywysogion, gwŷr Jwda, a phreswylwyr Jerw¬salem; a’r ddinas hon a gyfanheddir byth. º
26Ac o ddinasoedd Jwda, ac o amgylchoedd Jerwsalem, ac o wlad Benjamin, ac o’r gwastadedd, ac o’r mynydd, ac o’r deau, y daw rhai yn dwyn poethoffrymau, ac aberthau, a bwyd-offrymau, a thus, ac yn dwyn aberthau moliant i dŷ yr ARGLWYDD. º
27Ond os chwi ni wrendy arnaf, i sancteiddio y dydd Saboth, heb ddwyn baich, wrth ddyfod i byrth Jerwsalem, ar y dydd Saboth: yna mi a gyneuaf dân yn ei phyrth hi, ac efe a ysa balasau Jerw¬salem, ac nis diffoddir.