Llyfr Jeremeia 3:13
Yn unig cydnebydd dy anwiredd, droseddu ohonot yn erbyn yr ARGLWYDD dy DDUW, a gwasgaru ohonot dy ffyrdd i ddieithriaid dan bob pren deiliog, ac ni wrandawech ar fy llef, medd yr AR¬GLWYDD.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Deuteronomy 12:2Gan ddinystrio dinystriwch yr holl fannau, y rhai y gwasanaethodd y cenhedloedd yr ydych chwi yn eu meddiannu eu duwiau ynddynt, ar y mynyddoedd uchel, ac ar y bryniau, a than bob pren gwyrddlas.
Job 33:27Efe a edrych ar ddynion, ac os dywed neb. Mi a bechais, ac a wyrais uniondeb, ac ni lwyddodd i mi,
Jeremiah 2:20Oblegid er ys talm mi a dorrais dy iau di, ac a ddrylliais dy rwymau; a thi a ddywedaist, Ni throseddaf; er hynny ti a wibiaist, gan buteinio ar bob bryn uchel, a than bob pren deiliog.
Jeremiah 3:2Dyrchafa dy lygaid i’r lleoedd uchel, ac edrych pa le ni phuteiniaist. Ti a eisteddaist ar y ffyrdd iddynt hwy, megis Arabiad yn yr anialwch; ac a halogaist y tir a’th buteindra, ac a’th ddrygioni.
Jeremiah 3:25Gorwedd yr ydym yn ein cywilydd, a’n gwarth a’n todd ni: canys yn erbyn yr ARGLWYDD ein Duw y pechasom, nyni a’n tadau, o’n hieuenctid hyd y dydd heddiw, ac ni wrandawsom ar lais yr ARGLWYDD ein Duw.
Jeremiah 7:26Er hynny ni wrandawsant arnaf fi, ac ni ostyngasant eu dust, eithr caledasant eu gwarrau; gwnaethant yn waeth na’u tadau.