Llyfr Jeremeia 39:4
A phan welodd Sedeceia brenin Jwda hwynt, a’r holl ryfelwyr, hwy a ffoesant, ac a aethant allan o’r ddinas liw nos, trwy ffordd gardd y brenin, i’r porth rhwng y ddau fur: ac efe a aeth allan tua’r anialwch. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Leviticus 26:17Ac a osodaf fy wyneb i’ch erbyn, a chwi a syrthiwch o flaen eich gelynion; a’ch caseion a feistrola arnoch; ffowch hefyd pan na byddo neb yn eich erlid.
Deuteronomy 28:25Yr Arglwydd a wna i ti syrthio o flaen dy elynion: trwy un ffordd yr âi di yn eu herbyn hwynt, a thrwy saith o ffyrdd y ffoi o’u blaen hwynt: a thi a fyddi ar wasgar dros holl deyrnasoedd y ddaear.
2 Kings 25:4A’r ddinas a dorrwyd, a’r holl ryfelwyr a ffoesant liw nos ar hyd ffordd y porth, rhwng y ddau fur, y rhai sydd wrth ardd y brenin, (a’r Caldeaid oedd wrth y ddinas o amgylch;) a’r brenin a aeth y ffordd tua’r rhos. º
Isaiah 22:3Dy holl dywysogion a gydffoesant, gan y perchen bwâu y rhwymwyd hwynt: y rhai oll a gafwyd ynot a gydrwymwyd, y rhai a ffoesant o bell. º
Isaiah 30:15Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW, Sanct Israel, Trwy ddychwelyd a gorffwys y byddwch gadwedig; mewn llonyddwch a gobaith y bydd eich cadernid: ond ni fynnech. º
Jeremiah 38:18Ond onid ei di allan at dywysogion brenin Babilon, yna y ddina hon a roddir i law y Caldeaid, a hwy a’i llosgant hi â thân, ac ni ddihengi dithau o’u llaw hwynt. º