Llyfr Jeremeia 39:6
Yna brenin Babilon a laddodd feibion Sedeceia yn Ribia o flaen ei lygaid ef: brenin Babilon hefyd a laddodd holl bendefigion Jwda. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
7Ac efe a dynnodd lygaid Sedeceia, ac a’i rhwymodd ef a chadwynau i’w ddwyn i Babilon. º
Cross References
Genesis 21:16A hi a aeth, ac a eisteddodd ei hunan ym mhell ar ei gyfer, megis ergyd bwa: canys dywedasai, Ni allaf fi edrych ar y bachgen yn marw. Felly hi a eisteddodd ar ei gyfer, ac a ddyrchafodd ei llef, ac a wylodd.
Deuteronomy 28:34A byddi wallgofus, gan weledigaeth dy lygaid yr hon a welych.
2 Kings 25:7Lladdasant feibion Sedeceia hefyd o flaen ei lygaid, ac a dynasant lygaid Sedeceia, ac a’i rhwymasant ef mewn gefynnau pres, ac a’i dygasant ef i Babilon. º
Esther 8:6Canys pa fodd y gallaf edrych ar y drygfyd a gaiff fy mhobl? a pha fodd y gallaf edrych ar ddifetha fy nghenedl?
Jeremiah 21:7Ac wedi hynny, medd yr ARGLWYDD, y rhoddaf Sedeceia brenin Jwda, a’i weision, a’r bobl, a’r rhai a weddillir yn y ddinas hon, gan yr haint, gan y cleddyf, a chan y newyn, i law Nebuchodonosor brenin Babilon, ac i law eu gelynion, ac i law y rhai sydd yn ceisio eu heinioes: ac efe a’u tery hwynt â min y cleddyf; lu thosturia wrthynt, ac nid erbyd, ac ni chymer drugaredd. º
Jeremiah 34:19Tywysogion Jwda, a thywysogion Jerwsalem, yr ystafellyddion, a’r offeiriaid, a holl bobl y wlad y rhai a aethant rhwng rhannau y llo; º