Llyfr Jeremeia 50:14
Ymfyddinwch yn erbyn Babilon o amgylch; yr holl berchen bwâu, saethwch ati, nac arbedwch saethau: oblegid hi a bechodd yn erbyn yr ARGLWYDD. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
2 Samuel 10:9Pan ganfu Joab fod wyneb y rhyfel yn ei erbyn ef ymlaen ac yn ôl, efe. a etholodd o holl etholedigion Israel, ac a ymfyddinodd yn erbyn y Syriaid. º
Isaiah 5:28Yr hwn sydd â’i saethau yn llymion, a’i holl fwâu yn anelog: carnau ei feirch ef a gyfrifir fel callestr, a’i olwynion fel corwynt.
Isaiah 13:17Wele fi yn cyfodi y Mediaid yn eu herbyn hwy, y rhai ni roddant fri ar arian; a’r aur nid ymhyfrydant ynddo. º
Jeremiah 49:35Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd: Wele fi yn torri bwa Elam, eu cadernid pennaf hwynt. º
Jeremiah 50:9Oherwydd wele, myfi a gyfodaf ac a ddygaf i fyny yn erbyn Babilon gynull.. eidfa cenhedloedd mawrion o dir y gogledd: a hwy a ymfyddinant yn ei herbyn, oddi yno y goresgynnir hi: eu saethau fydd fel saethau cadarn cyfar1-wydd; ni ddychwelant yn ofer. º
Jeremiah 50:29Gelwch y saethyddion ynghyd yn erbyn Babilon; y perchen bwâu oll, gwersyllwch i’w herbyn hi o amgylch; na chaffed neb ddianc ohoni: telwch iddi yn ôl ei gweithred; ac yn ôl yr hyn oll a wnaeth hi, gwnewch iddi: oherwydd hi a fu falch yn erbyn yr ARGLWYDD, yn erbyn Sanct Israel. º