The Bible Software
Llyfr Jeremeia · Beibl (1620)

Llyfr Jeremeia 50

1Ygair a lefarodd yr ARGLWYDD yn erbyn Babilon, ac yn erbyn gwlad y Caldeaid, trwy Jeremeia y proffwyd. º

2Mynegwch ymysg y cenhedloedd, a chyhoeddwch, a chodwch arwydd; cyhoeddwch, na chelwch: dywedwch, Goresgynnwyd Babilon, gw aradwyddwyfl Bel, drylliwyd Merodach: ei heilunod a gywilyddiwyd, a’i delwau a ddrylliwyd. º

3Canys o’r gogledd y daw cenedl yn ei herbyn hi, yr hon a wna ei gwlad hi yn anghyfannedd, fel na byddo preswylydd ynddi: yn ddyn ac yn anifail y mudant, ac y ciliant ymaith. º

4Yn y dyddiau hynny, ac yn yr amser hwnnw, medd yr ARGLWYDD, meibion Israel a ddeuant, hwy a meibion Jwda ynghyd, dan gerdded ac wyle yr ant, ac y ceisiant yr ARGLWYDD eu Duw. º

5Hwy a ofynnant y ffordd i Seion, tuag yno y bydd eu hwynebau hwynt: Deuwch, meddant, a glynwn wrth yr ARGLWYDD, trwy gyfamod tragwyddol yr hwn nid anghofir. º

6Fy mhobl a fu fel praidd colledigs eu bugeiliaid a’u gyrasant hwy ar gyfeiliorn, ar y mynyddoedd y troesant hwynt ymaith: aethant o fynydd i fryn, anghofiasant eu gorweddfa. º

7Pawb a’r a’u cawsant a’u difasant, a’u gelynion a ddywedasant, Ni wnaethom ni ar fai; canys hwy a bechasant yn erbyn yr ARGLWYDD, trigle cyfiawnder; sef yr ARGLWYDD, gobaith eu tadau. º

8Ciliwch o ganol Babilon, ac ewch allan o wlad y Caldeaid; a byddwch fel bychod o flaen y praidd. º

9Oherwydd wele, myfi a gyfodaf ac a ddygaf i fyny yn erbyn Babilon gynull.. eidfa cenhedloedd mawrion o dir y gogledd: a hwy a ymfyddinant yn ei herbyn, oddi yno y goresgynnir hi: eu saethau fydd fel saethau cadarn cyfar1-wydd; ni ddychwelant yn ofer. º

10A Chaldea fydd yn ysbail: pawb a’r a’i hysbeiliant hi a ddigonir, medd yr ARGLWYDD. º

11Am i chwi fod yn llawen, am i chwi fod yn hyfryd, chwi fathrwyr fy etifeddiaeth, am i chwi frasau fel anner mewn glaswellt, a beichio fel teirw; º

12Eich main a gywilyddir yn ddirfawr, a’r hon a’ch ymddûg a waradwyddir: wele, yr olafo’r cenhedloedd yn anialweh, yn grastir, ac yn ddiffeithwch. º

13Oherwydd i digofaint, yr ARSIJWYDD nis preswylir hi, eithr hi a fydd i gyd yn anghyfannedd: pawb a êl heibio i Babiloo a synna, ac a chwibana am ei holl ddial" eddau hi. º

14Ymfyddinwch yn erbyn Babilon o amgylch; yr holl berchen bwâu, saethwch ati, nac arbedwch saethau: oblegid hi a bechodd yn erbyn yr ARGLWYDD. º

15Bloeddiwch yn ei herbyn hi o amgylch; hi a roddes ei llaw: ei sylfeini hi a syrthiasant, ei muriau a fwriwyd i lawr; oherwydd dial yr ARGLWYDD yw hyn: dielwch arni: fel y gwnaeth, gwnewch iddi. º

16Torrwch ymaith yr heuwr o Babilon, a’r hwn a ddalio gryman ar amser cynhaeaf: rhag cleddyf y gorthrymwr J troant bob un at ei bobl ei hun, ac y ffoant bob un i’w wlad. º

17Fel dafad ar wasgar yw Israel, llewod a’i hymlidiasant ymaith: brenin Asyria yn gyntaf a’i hysodd, a’r Nebu-chodonosor yma brenin Babilon yn olaf a’i diesgyrnodd. º

18Am hynny fel hyn y dywed AR¬GLWYDD y lluoedd, Duw Israel; Wek, myfi a ymwelaf a brenin Babilon, ac al wlad, fel yr ymwelais a brenin Asyria. º

19A mi a ddychwelaf Israel i’w drigfa, ac efe a bawr ar Carmel a Basan; ac ar fynydd Effraim a Gilead y digonir ei enaid ef. º

20Yn y dyddiau hynny, ac yn yr amser hwnnw, medd yr ARGLWYDD, y ceisir anwiredd Israel, ac ni bydd; a phechodau Jwda, ond nis ceir hwynt: canys myfi a faddeuaf i’r rhai a weddillwyf. º

21DOS i fyny yn erbyn gwlad Merathaim, ie, yn ei herbyn hi, ac yn erbyn tngolion Pecod: anrheithia di a difroda ar eu hôl hwynt, medd yr ARGLWYDD, a gwna yn ôl yr hyn oll a orchmynnais i ti. º

22Trwst rhyfel sydd yn y wlad, a dinistr mawr. º

23Pa fodd y drylliwyd ac y torrwyd gordd yr holl ddaear! pa fodd yr aetfa Babilon yn ddiffeithwch ymysg y cen¬hedloedd! º

24Myfi a osodais fagi i ti, a thithau Babilon a ddaliwyd, a heb wybod i ti: ti a gafwyd ac a ddaliwyd, oherwydd i ti ymryson yn erbyn yr ARGLWYDD. º

25Yr ARGLWYDD a agorodd ei drysor, ac a ddug allan arfau ei ddigofaint: canys gwaith ARGLWYDD DDUW y lluoedd yw hyn yng ngwlad y Caldeaid. º

26Deuwch yn ei herbyn o’r cwr eithaf, agorwch ei hysguboriau hi, dyrnwch hi fel pentwr ŷd, a llwyr ddinistriwch hi: na fydded gweddill ohoni. º

27Lleddwch ei holl fustych hi; disgyrt-nant i’r lladdfa: gwae hwynt! canys en dydd a ddaeth, ac amser eu hymweliad. º

28Llef y rhai a ffoant ac a ddihangant o wlad Babilon, i ddangos yn Seion ddial yr ARGLWYDD ein Duw ni, dial ei deml ef. º

29Gelwch y saethyddion ynghyd yn erbyn Babilon; y perchen bwâu oll, gwersyllwch i’w herbyn hi o amgylch; na chaffed neb ddianc ohoni: telwch iddi yn ôl ei gweithred; ac yn ôl yr hyn oll a wnaeth hi, gwnewch iddi: oherwydd hi a fu falch yn erbyn yr ARGLWYDD, yn erbyn Sanct Israel. º

30Am hynny ei gwŷr ieuainc a syrthiant yn ei heolydd hi; a’i holl ryfelwyr a ddifethir y dydd hwnnw, medd yr AR¬GLWYDD. º

31Wele fi yn dy erbyn di, O falch, medd ARGLWYDD DDUW y lluoedd: oherwydd dy ddydd a ddaeth, yr amser yr ymwelwyf athi. º

32A’r balch a dramgwydda ac a syrth, ac ni bydd a’i cyfodo: a mi a gyneuaf dân yn ei ddinasoedd, ac efe a ddifa ei holl amgylchoedd ef. º

33Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Meibion Israel a meibion Jwda a orthrymwyd ynghyd; a phawb a’r a’u caethiwodd hwynt a’u daliasant yn dynn, ac a wrthodasant eu gollwng hwy ymaith. º

34Eu Gwaredwr sydd gryf; AR¬GLWYDD y lluoedd yw ei enw; efe a lwyr ddadlau eu dadi hwynt, i beri llonydd i’r wlad, ac allonyddwch i breswylwyr Babilon. º

35Cleddyf sydd ar y Caldeaid, medd yr ARGLWYDD, ac ar drigolion Babilon, ac ar ei thywysogion, ac ar ei doethion. º

36Cleddyf sydd ar y celwyddog, <a hwy a ynfydant: cleddyf sydd ar ei chedyrn, a hwy a ddychrynant. º

37Cleddyf sydd ar ei meirch, ac ar i cherbydau, ac ar yr holl werin sydd yn ei chanol hi; a hwy a fyddant fel gwragedd: cleddyf sydd ar ei thrysorau; a hwy a ysbeilir. º

38Sychder sydd ar ei dyfroedd hi, a hwy a sychant: oherwydd gwlad delwau cerfiedig yw hi, ac mewn eilunod y maent yn ynfydu. º

39Am hynny anifeiliaid gwylltion yr anialweh, a chathod, a arhosant yno, a chywion yr estrys a drigant ynddi: ac ni phreswylir hi mwyach byth; ac nis cyf-anheddir hi o genhedlaeth i genhedlaeth, º

40Fel yr ymchwelodd Duw Sodom a Gomorra, a’i chymdogesau, medd yr ARGLWYDD; felly ni phreswylia neb yno, ac ni erys mab dyn ynddi. º

41Wele, pobl a ddaw o’r gogledd, a chenedl fawr, a brenhinoedd lawer a godir o eithafoedd y ddaear. º

42Y bwa a’r waywffon a ddaliant; creulon ydynt, ac ni thosturiant: eu llef fel môr a rua, ac ar feirch y marchogant yn daclus i’th erbyn di, merch Babilon, fel gŵr i ryfel. º

43Brenin Babilon a glywodd sôn amdanynt, a’i ddwylo ef a lesgasant: gwasgfa a’i daliodd ef, a gwewyr fel gwraig wrth esgor. º

44Wele, fel llew y daw i fyny oddi wrth ymchwydd yr Iorddonen i drigfa y cadarn: eithr mi a wnaf iddo ef redeg yn ddisymwth oddi wrthi hi: a phwy sydd ŵr dewisol a osodwyf fi arni hi? canys pwy sydd fel myfi? a phwy a esyd i mi yr amser? a phwy yw y bugail hwnnw a saif o’m blaen i? º

45Am hynny gwrandewch chwi gyngor yr ARGLWYDD, yr hwn a gymerodd efe yn erbyn Babilon, a’i fwriadau a fwriadodd efe yn erbyn gwlad y Caldeaid: yn ddiau y rhai lleiaf o’r praidd a’u llusgant hwy, xxx yn ddiau efe a wna yn anghyfannedd eu trigleoedd gyda hwynt. º

46Gan drwst goresgyniad Babilon y cynhyrfa y ddaear, ac y clywir y waedd ymysg y cenhedloedd.

← Llyfr Jeremeia 49Read In The App, Free →Llyfr Jeremeia 51 →

Study Llyfr Jeremeia 50

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334353637383940414243444546474849505152