Llyfr Jeremeia 50:15
Bloeddiwch yn ei herbyn hi o amgylch; hi a roddes ei llaw: ei sylfeini hi a syrthiasant, ei muriau a fwriwyd i lawr; oherwydd dial yr ARGLWYDD yw hyn: dielwch arni: fel y gwnaeth, gwnewch iddi. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Deuteronomy 32:35I mi y perthyn dïal, a thalu y pwyth; mewn pryd y llithr eu troed hwynt: canys agos yw dydd eu trychineb, a phrysuro y mae yr hyn a barottôwyd iddynt.
Deuteronomy 32:43Y cenhedloedd, llawenhêwch gyd â’i bobl ef: canys efe a ddïal waed ei weision, ac a ddychwel ddïal ar ei elynion, ac a drugarhâ wrth ei dir a’i bobl ei hun.
Joshua 6:20¶ A bloeddiodd y bobl, pan leisiasant â’r udgyrn. A phan glybu y bobl lais yr udgyrn, yna y bobl a waeddasant â bloedd uchel; a’r mur a syrthiodd i lawr oddi tanodd. Felly y bobl a aethant i fynu i’r ddinas, pob un ar ei gyfer, ac a ennillasant y ddinas.
1 Samuel 15:33A Samuel a ddywedodd, Fel y diblantodd dy gleddyf di wragedd, felly y diblentir dy fam dithau ymysg gwragedd. A Samuel a ddarniodd Agag ger¬bron yr ARGLWYDD yn Gilgal. º
2 Chronicles 30:8Yn awr na chaledwch eich gwar, fel eich tadau; rhoddwch law i’r ARGLWYDD, a deuwch i’w gysegr a gysegrodd efe yn dragywydd: a gwasanaethwch yr AR¬GLWYDD eich Duw, fel y tro llid ei ddigofaint ef oddi wrthych chwi.
Psalms 137:8Yr haul, i lywodraethu y dydd: canys, ei drugaredd sydd yn dragywydd: