Llyfr Jeremeia 8:2
A hwy a’u taenant o flaen yr haul, ac o flaen y lleuad, a holl lu y nefoedd y rhai a garasant hwy, a’r rhai a wasanaethasant, a’r rhai y rhodiasant ar eu hôl, a’r rhai a geisiasant, a’r rhai a addolasant: ni chesglir hwynt, ac nis cleddir; yn domen ar wyneb y ddaear y byddant.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Deuteronomy 17:3Ac a aeth ac a wasanaethodd dduwiau dïeithr, ac a ymgrymmodd iddynt, i’r haul, neu i’r lleuad, neu i holl lu y nefoedd, yr hyn ni orchymynais;
2 Kings 9:37A chelain Jesebel a fydd fel tomen ar wyneb y maes, yn rhandir Jesreel; fel na ellir dywedyd, Dyma Jesebel.
2 Kings 21:3Canys efe a adeiladodd drachefn yr uchelfeydd a ddinistriasai Heseceia ei dad ef; ac a gyfododd allorau i Baal, ac a wnaeth lwyn, fel y gwnaethai Ahab brenin Israel, ac a addolodd holl lu’r nefoedd, ac a’u gwasanaethodd hwynt. º
2 Kings 23:5Ac efe a ddiswyddodd yr offeiriaid a osodasai brenhinoedd Jwda i arogldartha yn yr uchelfeydd, yn ninasoedd Jwda, ac yn amgylchoedd Jerwsalem: a’r rhai oedd yn arogldarthu i Baal, i’r haul, ac i’r lleuad, ac i’r planedau, ac i holl lu y nefoedd. º
Ecclesiastes 6:3Os ennill gŵr gant o blant, ac a fydd byw lawer o flynyddoedd, fel y bo dyddiau ei flynyddoedd yn llawer, os ei enaid ni ddiwellir a daioni, ac oni bydd iddo gladdedigaeth; mi a ddywedaf, mai gwell yw erthyl nag ef.