The Bible Software
Llyfr Jeremeia · Beibl (1620)

Llyfr Jeremeia 8

1Yn yr amser hwnnw, medd yr AR¬GLWYDD, y dygant hwy esgyrn brenhinoedd Jwda, ac esgyrn ei dywysogion, ac esgyrn yr offeiriaid, ac esgyrn y proffwydi, ac esgyrn trigolion Jerw¬salem, allan o’u beddau.

2A hwy a’u taenant o flaen yr haul, ac o flaen y lleuad, a holl lu y nefoedd y rhai a garasant hwy, a’r rhai a wasanaethasant, a’r rhai y rhodiasant ar eu hôl, a’r rhai a geisiasant, a’r rhai a addolasant: ni chesglir hwynt, ac nis cleddir; yn domen ar wyneb y ddaear y byddant.

3Ac angau a ddewisir o flaen bywyd gan yr holl weddillion a adewir o’r teulu drwg hwn, y rhai a adewir yn y lleoedd oll y gyrrais i hwynt yno, medd ARGLWYDD y lluoedd.

4Ti a ddywedi wrthynt hefyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; A gwympant hwy, ac ni chodant? a dry efe ymaith, ac oni ddychwel?

5Paham y ciliodd pobl Jerwsalem yma yn eu hôl ag encil tragwyddol? glynasant mewn twyll, gwrthodasant ddychwelyd;.

6Mi a wrandewais ac a glywais, ond ni ddywedent yn iawn: nid edifarhaodd neb am ei anwiredd, gan ddywedyd, Beth a wneuthum i? pob un oedd yn troi i’w yrfa, megis march yn rhuthro i’r frwydr.

7Ie, y ciconia yn yr awyr a edwyn ei dymhorau; y durtur hefyd, a’r aran, a’r wennol, a gadwant amser eu dyfodiad; eithr fy mhobl i ni wyddant farn yr AR¬GLWYDD.

8Pa fodd y dywedwch, Doethion ydym ni, a chyfraith yr ARGLWYDD sydd gyda ni? wele, yn ddiau ofer y gwnaeth hi; ofer yw pin yr ysgrifenyddion.:

9Y doethion a waradwyddwyd, a ddychrynwyd, ac a ddaliwyd: wele gwrthodasant air yr ARGLWYDD; a pha ddoethineb sydd ynddynt?

10Am hynny y rhoddaf eu gwrag edd hwynt i eraill, a’u meysydd i’r rhai a’u meddianno: canys o’r lleiaf hyd y mwyaf, pob un sydd yn ymroi i gybydd-dod; o’r proffwyd hyd at yr offeiriad, pawb sydd yn gwneuthur ffalster.

11Iachasant hefyd archoll merch fy mhobl yn ysgafn, gan ddywedyd, Heddwch, heddwch; pryd nad oedd heddwch.

12A fu gywilydd arnynt hwy pan wnaethant ffieidd-dra? na fu ddim cywilydd arnynt, ac ni fedrasant wrido: am hynny y syrthiant ymysg y rhai a syrthiant: yn amser eu hymweliad y syrthiant, medd yr ARGLWYDD.

13Gan ddifa y difaf hwynt, medd yr ARGLWYDD; ni bydd grawnwin ar y winwydden, na ffigys ar y ffigysbren, a’r ddeilen a syrth; a’r hyn a roddais iddynt a ymedy â hwynt.

14Paham yr ydym ni yn aros? ymgesglwch ynghyd, ac awn i’r dinasoedd cedyrn, a distawn yno: canys yr AR¬GLWYDD ein Duw a’n gostegodd, ac a roes i ni ddwfr bustl i’w yfed, oherwydd pechu ohonom yn erbyn yr ARGLWYDD.

15Disgwyl yr oeddem am heddwch, eto ni ddaeth daioni; am amser meddyginiaeth, ac wele ddychryn.

16O Dan y clywir ffroeniad ei feirch ef; gan lais gweryriad ei gedyrn ef y crynodd yr holl ddaear: canys hwy a ddaethant, ac a fwytasant y tir, ac oll a oedd ynddo; y ddinas a’r rhai sydd yn trigo ynddi.

17Canys wele, mi a ddanfonaf seirff, asbiaid i’ch mysg, y rhai nid oes swyn rhagddynt: a hwy a’ch brathant chwi, medd yr ARGLWYDD.

18Pan ymgysurwn yn erbyn gofid,. fy nghalon sydd yn gofidio ynof.

19Wele lais gwaedd merch fy mhobl, oblegid y rhai o wlad bell: Onid ydyw yr ARGLWYDD yn Seion? onid yw ei brenin hi ynddi? paham y’m digiasant a’u delwau cerfiedig, ac ag oferedd dieithr?

20Y cynhaeaf a aeth heibio, darfu yr haf, ac nid ydym ni gadwedig.

21Am friw merch fy mhobl y’m briwyd i: galerais; daliodd synder fi.

22Onid oes driagl yn Gilead? onid oes yno ffisigwr? paham na wellha iechyd merch fy mhobl?

← Llyfr Jeremeia 7Read In The App, Free →Llyfr Jeremeia 9 →

Study Llyfr Jeremeia 8

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334353637383940414243444546474849505152