Llyfr Jeremeia 8:4
Ti a ddywedi wrthynt hefyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; A gwympant hwy, ac ni chodant? a dry efe ymaith, ac oni ddychwel?
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
1 Kings 8:38Pob gweddi, pob deisyfiad, a fyddo gan un dyn, neu gan dy holl bobl Israel, y rhai a wyddant bawb bla ei galon ei hun, ac a estynnant eu dwylo tua’r tŷ hwn; º
Isaiah 44:22Dileais dy gamweddau fel cwmwi, a’th bechodau fel niwi: dychwel ataf fi; canys myfi a’th waredais di. º
Jeremiah 3:1Hwy a ddywedant, O gyr gŵr ei wraig ymaith, a myned ohoni oddi wrtho ef, ac iddi fod yn eiddo gŵr arall, a ddychwel efe ati hi mwyach? oni lwyr halogir y tir hwnnw? ond ti a buteiniaist gyda chyfeillion lawer; eto dychwel ataf fi, medd yr ARGLWYDD.
Jeremiah 4:1Israel, os dychweli, dychwel ataf fi, medd yr ARGLWYDD: hefyd os rhoi heibio dy ffieidd-dra oddi ger fy mron, yna ni’th symudir.
Jeremiah 36:3Fe allai pan glywo tŷ Jwda yr holl ddrwg yr ydwyf fi yn amcanu ei wneuthur iddynt, y dychwelant bob un o’i ffordd ddrygionus, fel y maddeuwyf eu hanwiredd a’u pechod. º
Hosea 6:1Deuwch, a dychwelwn at yr ARGLWYDD: canys efe a’n drylliodd, ac efe a’n hiachâ ni; etc a drawodd, ac efe a’n meddyginiaetha ni.