Llyfr Job 19:7
Wele, llefaf rhag trawster, ond ni’m hatebir: gwaeddaf, ond nid oes farn.
Beibl (1620)
In The King James Version
Behold, I cry out of wrong, but I am not heard: I cry aloud, but there is no judgment.
In Context
6Gwybyddwch yn awr mai DUW a’m. dymchwelodd i, ac a’m hamgylchodd â’i rwyd.
8Efe a gaeodd fy ffordd, fel nad elwyf drosodd: y mae efe yn gosod tywyllwch ar fy llwybrau.
Cross References
Job 9:24Y ddaear a roddwyd yn llaw yr annuwiol: efe a fwrw hug dros wynebau ei barnwyr hi: onid e, pa le y mae, a phwy yw efe?
Job 10:3Ai da i ti orthrymu, fel y diystyrit waith dy ddwylo, ac y llewyrchit gyngor yr annuwiol?
Job 13:15Pe lladdai efe fi, eto mi a obeithiaf ynddo ef: er hynny fy ffyrdd a ddiffynnaf ger ei fron ef.
Job 16:21O na chai un ymddadlau a DUW dros ddyn, fel mab dyn dros ei gymydog!
Job 23:3O na wyddwn pa le y cawn ef! fel y deuwn at ei eisteddfa ef!.
Job 31:35O am un a’m gwrandawai! wele, fy nymuniad yw, i’r Hollalluog fy ateb i, ac ysgrifennu o’m gwrthwynebwr lyfr.