The Bible Software
Llyfr Job · Beibl (1620)

Llyfr Job 19

1A Job a atebodd ac a ddywedodd,

2Pa hyd y cystuddiwch fy enaid? ac y’m drylliwch â geiriau?

3Dengwaith bellach y’m gwarad wyddasoch; ac nid cywilydd gennych ymgaledu i’m herbyn.

4Hefyd pe byddai wir wneuthur ohonof fi yn amryfus; gyda mi y trig f amryfusedd.

5Yn wir os ymfawrygwch yn fy erbyn, a dadlau fy ngwaradwydd fin herbyn;

6Gwybyddwch yn awr mai DUW a’m. dymchwelodd i, ac a’m hamgylchodd â’i rwyd.

7Wele, llefaf rhag trawster, ond ni’m hatebir: gwaeddaf, ond nid oes farn.

8Efe a gaeodd fy ffordd, fel nad elwyf drosodd: y mae efe yn gosod tywyllwch ar fy llwybrau.

9Efe a ddiosgodd fy ngogoniant oddi amdanaf; ac a ddygodd ymaith goron fy mhen.

10Y mae efe yn fy nistrywio oddi amgylch, ac yr ydwyf yn myned ymaith: ac efe a symudodd fy ngobaith fel pren.

11Gwnaeth hefyd i’w ddigofaint gynnau yn fy erbyn; ac a’m cyfrifodd iddo fel un o’i elynion.

12Ei dorfoedd sydd yn dyfod ynghyd, ac yn palmantu eu ffyrdd yn fy erbyn, ac yn gwersyllu o amgylch fy mhabell.

13Efe a bellhaodd fy mrodyr oddi wrthyf, a’r rhai oedd yn fy adnabod hefyd a ymddieithrasant oddi wrthyf.

14Fy nghyfnesaf a ballasant, a’r rhai oedd o’m cydnabod a’m hanghofiasant.

15Y rhai oedd yn trigo yn fy nhŷ, a’m morynion, sydd yn fy nghyfrif yn ddieithr: alltud ydwyf yn eu golwg.

16Gelwais ar fy ngwasanaethwr, ac nid atebodd; ymbiliais ag ef â’m genau.

17Dieithr oedd fy anadl i’m gwraig, er ymbil ohonof â hi er mwyn fy mhlant o’m corff.

18Plant hefyd a’m diystyrent: cyfodais, a dywedasant i’m herbyn.

19Fy holl gyfrinachwyr sydd yn fy ffieiddio: a’r rhai a gerais a droesant yn fy erbyn.

20Fy esgyrn a lynodd wrth fy nghroen, ac wrth fy nghnawd; ac â chroen fy nannedd y dihengais.

21Trugarhewch wrthyf, trugarhewch wrthyf, fy nghyfeillion; canys llaw DUW a gyffyrddodd â mi.

22Paham yr ydych chwi yn fy erlid i fel Duw, heb gael digon ar fy nghnawd?

23O nad ysgrifennid fy ngeiriau yn awr! O nad argreffid hwynt mewn llyfr!

24O nad ysgrifennid hwynt yn y graig dros byth â phin o haearn ac â phlwm!

25Canys myfi a wn fod fy Mhrynwr yn fyw, ac y saif yn y diwedd ar y ddaear.

26Ac er ar ôl fy nghroen i bryfed ddifetha’r corn hwn, eto caf weled Duw yn fy nghnawd:

27Yr hwn a gaf fi i mi fy hun ei weled, a’m llygaid a’i gwelant, ac nid arall; er i’m harennau ddarfod ynof.

28Eithr chwi a ddylech ddywedyd, Paham yr erlidiwn ef? canys gwreiddyn y mater a gaed ynof.

29Ofnwch amdanoch rhag y cleddyf: canys y mae digofaint yn dwyn cosbedigaethau y cleddyf, fel y gwybyddoch fod barn.

← Llyfr Job 18Read In The App, Free →Llyfr Job 20 →

Study Llyfr Job 19

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142