Llyfr Job 2:11
A phan glybu tri chyfaill Job yr holl ddrwg yma a ddigwyddasai iddo ef, hwy a ddaethant bob un o’i fangre ei hun; Eliffas y Temaniad, a Bildad y Suhiad, a Soffar y Naamathiad: canys hwy a gytunasent i ddyfod i gydofidio ag ef, ac i’w gysuro.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 25:2A hi a esgorodd iddo ef Zimran, a Jocsan, a Medan, a Midian, ac Isbac, a Suah.
Genesis 36:15¶ Dyma dduciaid o feibion Esau; meibion Eliphaz cyntaf-anedig Esau, duc Teman, duc Omar, duc Seffo, duc Cenaz,
Genesis 37:35A’i holl feibion, a’i holl ferched, a godasant i’w gysuro ef; ond efe a wrthododd gymmeryd cysur, ac a ddywedodd, Yn ddïau disgynaf yn alarus at fy mab i’r beddrod: a’i dad a wylodd am dano ef.
1 Chronicles 1:32A meibion Cetura, gordderchwraig Abraham: hi a ymddûg Simran, a Jocsan, a Medan, a Midian, ac Isbac, a Sua. A meibion Jocsan; Seba, a Dedan.
Job 4:1Yna Eliffas y Temaniad a atebodd ac a ddywedodd,
Job 6:19Byddinoedd Tema a edrychasant, minteioedd Seba a ddisgwyliasant amdanynt.