Llyfr Job 7:11
Gan hynny ni warafunaf i’m genau; mi a lefaraf yng nghyfyngdra fy ysbryd; myfi a gwynaf yn chwerwder fy enaid.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
10Ni ddychwel mwy i’w dŷ: a’i le nid edwyn ef mwy.
12Ai môr ydwyf, neu forfil, gan dy fod yn gosod cadwraeth arnaf?
Cross References
Genesis 42:21¶ Ac a ddywedasant wrth eu gilydd, Dïau bechu o honom yn erbyn ein brawd; oblegid gweled a wnaethom gyfyngdra ei enaid ef, pan ymbiliodd efe â ni, ac ni wrandawsom ef: am hynny y daeth y cyfyngdra hwn arnom ni.
2 Kings 4:27A phan ddaeth hi at ŵr Duw i’r mynydd, hi a ymaflodd yn ei draed ef: a Gehasi a nesaodd i’w gwthio hi ymaith. A gŵr Duw a ddywedodd. Gad hi yn llonydd: canys ei henaid sydd ofidus ynddi; a’r ARGLWYDD a’i celodd oddi wrthyf fi, ac nis mynegodd i mi.
Job 10:1Y mae fy enaid yn blino ar fy einioes: arnaf fy hun y gadawaf fy nghwyn; ac yn chwerwder fy enaid y llefaraf.
Job 13:13Tewch, gadewch lonydd, fel y llefarwyf finnau, a deued aaraf yr hyn a ddelo.
Job 21:3Dioddefwch fi, a minnau a lefaraf; ac wedi i mi ddywedyd, gwatwerwch.
Job 23:2Y mae fy ymadrodd heddiw yn chwerw: fy nialedd sydd drymach na’m huchenaid.