Llyfr Joel 2:13
A rhwygwch eich calon, ac nid eich dillad; ac ymchwelwch at yr ARGLWYDD eich DUW: oherwydd graslon a thrugarog yw efe, hwyrfrydig i ddigofaint, a mawr ei drugaredd, ac edifeiriol am ddrwg. [
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 37:29¶ A Reuben a ddaeth eilwaith at y pydew; ac wele nid ydoedd Joseph yn y pydew: ac yntau a rwygodd ei ddillad;
Exodus 34:6A’r Arglwydd a aeth heibio o’i flaen ef, ac a lefodd Jehofah, Jehofah, y Duw trugarog a graslawn, hwyrfrydig i ddig, ac aml o drugaredd a gwirionedd;
2 Samuel 1:11Yna Dafydd a ymaflodd yn ei ddillad, ac a’u rhwygodd hwynt; a’r holl wŷr hefyd y rhai oedd gydag ef.
2 Kings 5:7A phan ddarllenodd brenin Israel y llythyr, efe a rwygodd ei ddillad, ac a ddywedodd, Ai Duw ydwyf fi, i farwhau, ac i fywhau, pan anfonai efe ataf fi i iacháu gŵr o’i wahanglwyf? gwybyddwch gan hynny, atolwg, a gwelwch mai ceisio achos y mae efe i’m herbyn i.
2 Kings 22:11A phan glybu y brenin eiriau llyfr y gyfraith, efe a rwygodd ei ddillad. º
2 Chronicles 6:27Yna gwrando di o’r nefoedd, a maddau bechod dy weision, a’th bobl Israel, pan ddysgech iddynt dy ffordd dda yr hon y rhodient ynddi; a dyro law ar dy wlad a roddaist i’th bobl yn etifeddiaeth.