Llyfr Joel 2:12
Ond yr awr hon, medd yr ARGLWYDD, Dychwelwch ataf fi â'ch holl galon, ag ympryd hefyd, ac ag wylofain, ac â galar.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Deuteronomy 4:29Os oddi yno y ceisi yr Arglwydd dy Dduw, ti a’i cei ef, os ceisi ef â’th holl galon, ac â’th holl enaid.
Judges 20:26Yna holl feibion Israel a’r holl bobl a aethant i fyny ac a ddaethant i dŷ DDUW, ac a wylasant, ac a arosasant yno gerbron yr ARGLWYDD, ac a ymprydiasant y dwthwn hwnnw hyd yr hwyr, ac a offrymasant boethoffrymau ac offrymau hedd gerbron yr ARGLWYDD. º
1 Samuel 7:6A hwy a ymgasglasant i Mispa, ac a dynasant ddwfr, ac a’i tywalltasant gerbron yr ARGLWYDD, ac a ymprydiasant y diwrnod hwnnw, ac a ddywedasant yno, Pechasom yn erbyn yr ARGLWYDD. A Samuel a farnodd feibion Israel ym Mispa.
1 Kings 8:47Os dychwelant at eu calon yn y wlad y caethgludwyd hwynt iddi, a dychwelyd, ac crfyn arnat yng ngwlad y rhai a’u caethgludasant, gan ddywedyd, Pechasom, troseddasom hefyd, a gwnaethom yn annuwiol; º
2 Chronicles 6:38Os dychwelant atat â’u holl galon, ac â’u holl enaid, yng ngwlad eu caethiw¬ed, lle y caethgludasant hwynt, a gweddïo tua’u gwlad a roddaist i’w tadau, a’r ddinas a ddetholaist, a’r tŷ a adeiledais i’th enw di:
2 Chronicles 20:3A Jehosaffat a ofnodd, ac a ymroddodd i geisio yr ARGLWYDD; ac a gyhoeddodd ymipryd trwy holl Jwda.