Llyfr Joel 2:14
Pwy a ŵyr a dry efe, ac edifarhau, a gweddill bendith ar ei ôl, sef bwyd-offrwm a diod-offrwm i'r ARGLWYDD eich DUW?
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
15Cenwch utgorn yn Seion, cysegrwch ympryd, gelwch gymanfa:
Cross References
Joshua 14:12Yn awr gan hynny dyro i mi y mynydd yma, am yr hwn y llefarodd yr Arglwydd y dwthwn hwnnw, (canys ti a glywaist y dwthwn hwnnw fod yr Anaciaid yno, a dinasoedd mawrion caerog;) ond odid yr Arglwydd fydd gyd â mi, fel y gyrrwyf hwynt allan, megis y llefarodd yr Arglwydd.
2 Samuel 12:22Ac efe a ddywedodd, Tra yr ydoedd y plentyn yn fyw, yr ymprydiais ac yr wylais: canys mi a ddywedais, Pwy a wŷr a drugarha yr ARGLWYDD wrthyf, fel y byddo byw y plentyn? º
2 Kings 19:4Fe allai y gwrendy yr ARGLWYDD dy DDUW holl eiriau Rabsace, yr hwn a anfonodd brenin Asyria ei feistr ef i gablu y Duw byw, ac y cerydda efe y geiriau a glybu yr ARGLWYDD dy DDUW: am hynny dyrcha dy weddi dros y gweddill sydd i’w gael. º
Jeremiah 26:3I edrych a wrandawant, ac a ddychwelant bob un o’i ffordd ddrwg; fel yr edifarhawyf finnau am y drwg a amcenais ei wneuthur iddynt, am ddrygioni eu gweithredoedd. º
Joel 1:13Ymwregyswch a griddfenwch, chwi offeiriaid, udwch, weinidogion yr allor; deuwch, weinidogion fy NUW, gorweddwch ar hyd y nos mewn sachliain; canys atelir oddi wrth dŷ eich DUW yr offrwm bwyd, a'r offrwm diod.
Amos 5:15Casewch ddrygioni, a hoffwch ddaioni, a gosodwch farn yn y porth: fe allai y bydd ARGLWYDD DDUW y lluoedd yn raslon i weddill Joseff.