Yr Efengyl yn ôl Ioan 1:18
Ni welodd neb Dduw erioed: yr unig-anedig Fab, yr hwn sydd ym mynwes y Tad, hwnnw a’i hysbysodd ef.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
17Canys y gyfraith a roddwyd trwy Moses, ond y gras a’r gwirionedd a ddaeth trwy Iesu Grist.
Read all of Yr Efengyl yn ôl Ioan 1
Cross References
Genesis 16:13A hi a alwodd enw yr Arglwydd, yr hwn oedd yn llefaru wrthi, Ti, O Dduw, wyt yn edrych arnaf fi: canys dywedodd, Oni edrychais yma hefyd ar ol yr hwn sydd yn edrych arnaf?
Genesis 32:28Yntau a ddywedodd, Mwyach ni elwir dy enw di Jacob, ond Israel: oblegid cefaist nerth gyd â Duw fel tywysog, a chyd â dynion, ac a orchfygaist.
Exodus 3:4Pan welodd yr Arglwydd ei fod efe yn troi i edrych, Duw a alwodd arno o ganol y berth, ac a ddywedodd, Moses, Moses. A dywedodd yntau, Wele fi.
Exodus 33:18Yntau a ddywedodd, Dangos i mi, attolwg, dy ogoniant.
Numbers 12:8Wyneb yn wyneb y llefaraf wrtho, mewn gwelediad, nid mewn damhegion; ond caiff edrych ar wedd yr Arglwydd; paham gan hynny nad oeddych yn ofni dywedyd yn erbyn fy ngwas, sef yn erbyn Moses?
Joshua 5:13¶ A phan oedd Josua wrth Jericho, yna efe a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele wr yn sefyll gyferbyn âg ef, a’i gleddyf noeth yn ei law. A Josua a aeth atto ef, ac a ddywedodd wrtho, Ai gyd â ni yr ydwyt ti, ai gyd â’n gwrthwynebwyr?