Yr Efengyl yn ôl Ioan 12:49
Canys myfi ni leferais ohonof fy hun: ond y Tad yr hwn a’m hanfonodd i, efe a roddes orchymyn i mi, beth a ddywedwn, a pha beth a lefarwn.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Yr Efengyl yn ôl Ioan 12
Cross References
John 3:11Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Mai yr hyn a wyddom yr ydym yn ei lefaru, a’r hyn a welsom yr ydym yn ei dystiolaethu; a’n tystiolaeth ni nid ydych yn ei derbyn.
John 5:30Ni allaf fi wneuthur dim ohonof fy hunan; fel yr ydwyf yn clywed, yr ydwyf yn barnu; a’m barn i sydd gyfiawn; canys nid ydwyf yn ceisio fy ewyllys fy hunan, ond ewyllys y Tad yr hwn a’m hanfonodd i.
John 8:26Y mae gennyf fi lawer o bethau i’w dywedyd ac i’w barnu amdanoch chwi: eithr cywir yw’r hwn a’m hanfonodd i; a’r pethau a glywais i ganddo, y rhai hynny yr ydwyf fi yn eu dywedyd i’r byd.
John 14:10Onid wyt ti yn credu fy mod i yn y Tad, a’r Tad ynof finnau? Y geiriau yr wyf fi yn eu llefaru wrthych, nid ohonof fy hun yr wyf yn eu llefaru; ond y Tad yr hwn sydd yn aros ynof, efe sydd yn gwneuthur y gweithredoedd.
John 15:15Nid ydwyf mwyach yn eich galw yn weision; oblegid y gwas ni ŵyr beth y mae ei arglwydd yn ei wneuthur: ond mi a’ch gelwais chwi yn gyfeillion; oblegid pob peth a’r a glywais gan fy Nhad, a hysbysais i chwi.
Revelation 1:1Datguddiad Iesu Grist, yr hwn a roddes Duw iddo ef, i ddangos i’w wasanaethwyr y pethau sydd raid eu dyfod i ben ar fyrder, a chan ddanfon trwy ei angel, efe a’i hysbysodd i’w wasanaethwr Ioan: