The Bible Software
Llyfr Jona · Beibl (1620)

Llyfr Jona 3

1A gair yr ARGLWYDD a ddaeth yr ail waith at Jona, gan ddywedyd,

2Cyfod, dos i Ninefe y ddinas fawr, a phregetha iddi y bregeth a lefarwyf wrthyt.

3A Jona a gyfododd ac a aeth i Ninefe, yn ôl gair yr ARGLWYDD. A Ninefe oedd ddinas fawr iawn o daith tri diwrnod.

4A Jona a ddechreuodd fyned i'r ddinas daith un diwrnod, ac efe a lefodd ac a ddywedodd, Deugain niwrnod fydd eto, a Ninefe a gwympir. 15 A gwŷ r Ninefe a gredasant i DDUW, ac a gyhoeddasant ympryd, ac a wisgasant sachliain, o'r mwyaf hyd y lleiaf ohonynt. 16 Canys gair a ddaeth at frenin Ninefe, ac efe a gyfododd o'i frenhinfainc, ac a diosgodd oddi amdano ei frenhinwisg, ac a roddes amdano liain sach, ac a eisteddodd mewn lludw. 17 Ac efe a barodd gyhoeddi, a dywedyd trwy Ninefe, trwy orchymyn y brenin a'i bendefigion, gan ddywedyd, Dyn ac anifail, eidion a dafad, na phrofant ddim, na phorant, ac nac yfant ddwfr. 18 Gwisger dyn ac anifail a sachlen, a galwant ar DDUW yn lew: ie, dychwelant bob un oddi wrth ei ffordd ddrygionus, ac oddi wrth y trawster sydd yn eu dwylo. 9 Pwy a w^yr a dry DUW ac edifarhau, a throi oddi wrth angerdd ei ddig, fel na difether ni? 10 A gwelodd DUW eu gweithredoedd hwynt, droi ohonynt o'u ffyrdd drygionus; ac edifarhaodd DUW am y drwg a ddywedasai y gwnai iddynt, ac nis gwnaeth.

← Llyfr Jona 2Read In The App, Free →Llyfr Jona 4 →

Study Llyfr Jona 3

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234