Llyfr Josua 1:2
Moses fy ngwas a fu farw: gan hynny cyfod yn awr, dos dros yr Iorddonen hon, ti, a’r holl bobl hyn, i’r wlad yr ydwyf fi yn ei rhoddi iddynt hwy, meibion Israel.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
3Pob man y sango gwadn eich troed chwi arno, a roddais i chwi; fel y lleferais wrth Moses.
Cross References
Genesis 17:8A mi a roddaf i ti, ac i’th had ar dy ol di, wlad dy ymdaith, sef holl wlad Canaan, yn etifeddiaeth dragywyddol; a mi a fyddaf yn Dduw iddynt.
Deuteronomy 3:28Gorchymyn hefyd i Josua, a nertha a chadarnhâ ef: oblegid efe a â drosodd o flaen y bobl yma, ac efe a ran iddynt yn etifeddiaeth y wlad yr hon a weli di.
Joshua 1:1Hwythau yn addaw ufuddhâu iddo ef. Ac wedi marwolaeth Moses, gwas yr Arglwydd, y llefarodd yr Arglwydd wrth Josua mab Nun, gweinidog Moses, gan ddywedyd,
Nehemiah 9:23Lluosogaist hefyd eu meibion hwynt fel sêr y nefoedd, ac a’u dygaist hwynt i’r wlad a ddywedasit wrth eu tadau y deuent iddi i’w meddiannu.
Hebrews 3:5A Moses yn wir a fu ffyddlon yn ei holl dŷ megis gwas, er tystiolaeth i’r pethau oedd i’w llefaru;