The Bible Software
Llyfr Josua · Beibl (1620)

Llyfr Josua 1

1Hwythau yn addaw ufuddhâu iddo ef. Ac wedi marwolaeth Moses, gwas yr Arglwydd, y llefarodd yr Arglwydd wrth Josua mab Nun, gweinidog Moses, gan ddywedyd,

2Moses fy ngwas a fu farw: gan hynny cyfod yn awr, dos dros yr Iorddonen hon, ti, a’r holl bobl hyn, i’r wlad yr ydwyf fi yn ei rhoddi iddynt hwy, meibion Israel.

3Pob man y sango gwadn eich troed chwi arno, a roddais i chwi; fel y lleferais wrth Moses.

4O’r anialwch, a’r Libanus yma, hyd yr afon fawr, afon Euphrates, holl wlad y Hethiaid, hyd y môr mawr, tu a machludiad yr haul, fydd eich terfyn chwi.

5Ni saif neb o’th flaen di holl ddyddiau dy einioes: megis y bûm gyd â Moses, y byddaf gyd â thithau: ni’th adawaf, ac ni’th wrthodaf.

6Ymgryfhâ, ac ymwrola: canys ti a wnei i’r bobl hyn etifeddu y wlad yr hon a dyngais wrth eu tadau ar ei rhoddi iddynt.

7Yn unig ymgryfhâ, ac ymwrola yn lew, i gadw ar wneuthur yn ol yr holl gyfraith a orchymynodd Moses fy ngwas i ti: na ogwydda oddi wrthi, ar y llaw ddehau nac ar y llaw aswy; fel y ffynnech i ba le bynnag yr elych.

8Nac ymadawed llyfr y gyfraith hon o’th enau, eithr myfyria ynddo ddydd a nos; fel y cedwych ar wneuthur yn ol yr hyn oll sydd ysgrifenedig ynddo: canys yna y llwyddi yn dy ffyrdd, ac yna y ffynni.

9Oni orchymynais i ti? Ymgryfhâ, ac ymwrola; nac arswyda, ac nac ofna: canys yr Arglwydd dy Dduw fydd gyd â thi, i ba le bynnag yr elych.

10¶ Yna Josua a orchymynodd i lywodraethwyr y bobl, gan ddywedyd,

11Tramwywch trwy ganol y llu, a gorchymynwch i’r bobl, gan ddywedyd, Parottôwch i chwi luniaeth: canys o fewn tridiau y byddwch chwi yn myned dros yr Iorddonen hon, i ddyfod i feddiannu y wlad y mae yr Arglwydd eich Duw yn ei rhoddi i chwi i’w meddiannu.

12¶ Wrth y Reubeniaid hefyd, ac wrth y Gadiaid, ac wrth hanner llwyth Manasseh, y llefarodd Josua, gan ddywedyd,

13Cofiwch y gair a orchymynodd Moses gwas yr Arglwydd i chwi, gan ddywedyd, Yr Arglwydd eich Duw a esmwythaodd arnoch, ac a roddodd i chwi y wlad hon.

14Eich gwragedd, eich plant, a’ch anifeiliaid, a drigant yn y wlad a roddodd Moses i chwi o’r tu yma i’r Iorddonen: ond chwychwi a ewch drosodd yn arfogion o flaen eich brodyr, y sawl ydych gedyrn o nerth, a chynnorthwywch hwynt;

15Nes rhoddi o’r Arglwydd lonyddwch i’ch brodyr, fel i chwithau, a meddiannu o honynt hwythau y wlad y mae yr Arglwydd eich Duw yn ei rhoddi iddynt: yna dychwelwch i wlad eich etifeddiaeth, a meddiennwch hi, yr hon a roddodd Moses gwas yr Arglwydd i chwi, o’r tu yma i’r Iorddonen, tu a chodiad yr haul.

16¶ Hwythau a attebasant Josua, gan ddywedyd, Ni a wnawn yr hyn oll a orchymynaist i ni; awn hefyd i ba le bynnag yr anfonych ni.

17Fel y gwrandawsom ar Moses ym mhob peth, felly y gwrandâwn arnat tithau: yn unig bydded yr Arglwydd dy Dduw gyd â thi, megis y bu gyd â Moses.

18Pwy bynnag a anufuddhao dy orchymyn, ac ni wrandawo ar dy ymadroddion, yn yr hyn oll a orchymynech iddo, rhodder ef i farwolaeth: yn unig ymgryfhâ, ac ymwrola.

← Llyfr Deuteronomium 34Read In The App, Free →Llyfr Josua 2 →

Study Llyfr Josua 1

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324