Llyfr Josua 2:14
A’r gwŷr a ddywedasant wrthi, Ein heinioes a roddwn i farw drosoch, (os chwi ni fynegwch ein neges hyn,) pan roddo yr Arglwydd i ni y wlad hon, oni wnawn â chwi drugaredd a gwirionedd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 24:49Ac yn awr od ydych chwi yn gwneuthur trugaredd a ffyddlondeb â’m meistr, mynegwch i mi: ac onid ê, mynegwch i mi; fel y tröwyf ar y llaw ddehau, neu ar y llaw aswy.
Numbers 10:29¶ A dywedodd Moses wrth Hobab, mab Raguel y Midianiad, chwegrwn Moses, Myned yr ydym i’r lle am yr hwn y dywedodd yr Arglwydd, Rhoddaf hwnnw i chwi: tyred gyd â ni, a gwnawn ddaioni i ti; canys llefarodd yr Arglwydd ddaioni am Israel.
Joshua 6:22¶ A Josua a ddywedodd wrth y ddau wr a fuasai yn edrych ansawdd y wlad, Ewch i dŷ y butteinwraig, a dygwch allan oddi yno y wraig, a’r hyn oll sydd iddi, fel y tyngasoch wrthi.
Judges 1:24A’r ysbïwyr a welsant ŵr yn dyfod allan o’r ddinas; ac a ddywedasanf wrtho, Dangos i ni, atolwg, y ffordd yr eir i’r ddinas, a ni a wnawn drugaredd â thi.
2 Samuel 2:5A Dafydd a anfonodd genhadau at wŷr Jabes Gilead, ac a ddywedodd wrthynt, Bendigedig ydych chwi gan yr ARGLWYDD, y rhai a wnaethoch y drugaredd hon â’ch arglwydd Saul, ac a’i claddasoch ef.
2 Samuel 9:1Adafydd a ddywedodd, A oes eto un wedi ei adael o dŷ Saul, fel y gwnelwyf drugaredd ag ef, er mwyn Jonathan? º