Llyfr Josua 4:7
Yna y dywedwch wrthynt, Dorri ymaith ddyfroedd yr Iorddonen o flaen arch cyfammod yr Arglwydd; pan oedd hi yn myned trwy yr Iorddonen, dyfroedd yr Iorddonen a dorrwyd ymaith. Y mae y cerrig hyn yn goffadwriaeth i feibion Israel byth.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 28:12A gosod y ddau faen ar ysgwyddau yr ephod, yn feini coffadwriaeth i feibion Israel. Ac Aaron a ddwg eu henwau hwynt ger bron yr Arglwydd ar ei ddwy ysgwydd, yn goffadwriaeth.
Numbers 16:40Yn goffadwriaeth i feibion Israel; fel na nesâo gwr dïeithr, yr hwn ni byddo o had Aaron, i losgi arogl-darth ger bron yr Arglwydd; ac na byddo fel Corah a’i gynnulleidfa: megis y llefarasai yr Arglwydd trwy law Moses wrtho ef.
Deuteronomy 16:3Na fwytta fara lefeinllyd gyd âg ef: saith niwrnod y bwyttêi gyd âg ef fara croyw, sef bara cystudd: (canys ar ffrwst y daethost allan o dir yr Aipht:) fel y cofiech ddydd dy ddyfodiad allan o dir yr Aipht holl ddyddiau dy einioes.
Joshua 4:6Fel y byddo hyn yn arwydd yn eich mysg chwi, pan ofyno eich meibion chwi yn ol hyn, gan ddywedyd, Beth y mae y cerrig hyn yn ei arwyddoccâu i chwi?
Isaiah 66:3Yr hwn a laddo ych, sydd fel yr hwn a laddo ŵr; yr hwn a abcrtho oen, sydd fel yr hwn a dorfynyglo gi; yr hwn a offrymo offrwm, sydd fel ped offrymai waed moch; yr hwn a arogl-dartho thus, sydd fel pe bendigai eilun: ie, hwy a ddewisasant eu ffyrdd eu hun, a’u henaid a ymhyfrydodd yn eu ffieidd-dra. º