Llyfr y Barnwyr 3:8
Am hynny dicllonedd yr ARGLWYDD a lidiodd yn erbyn Israel, ac efe a’u gwerthodd hwynt i law Cusan-risathaim, brenin Mesopotamia: a meibion Israel a wasanaethasant Cusan-risathaim wyth mlynedd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 22:24A’m digofaint a ennyn, a mi a’ch lladdaf â’r cleddyf; a bydd eich gwragedd yn weddwon, a’ch plant yn amddifaid.
Deuteronomy 29:20Ni fyn yr Arglwydd faddeu iddo; canys yna y myga digllonedd yr Arglwydd a’i eiddigedd yn erbyn y gwr hwnnw, a’r holl felldithion sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn a orwedd arno ef, a’r Arglwydd a ddilea ei enw ef oddi tan y nefoedd.
Judges 2:14A llidiodd dicllonedd yr AR¬GLWYDD yn erbyn Israel; ac efe a’u rhoddodd hwynt yn llaw yr anrheithwyr, y rhai a’u hanrheithiasant hwy; ac efe a’u gwerthodd hwy i law eu gelynion o amgylch, fel na allent sefyll mwyach yn erbyn eu gelynion.
Judges 4:9A hi a ddywedodd, Gan fyned yr af gyda thi: eto ni bydd gogoniant i ti yn y daith yr wyt yn myned iddi; canys yn llaw gwraig y gwerth yr ARGLWYDD Sisera. A Debora a gyfododd, ac a aeth gyda Barac i Cedes.
Psalms 6:1I’r Pencerdd ar Nehiloth, Salm Dafydd. Gwrando fy ngeiriau, ARGLWYDD; deall fy myfyrdod.
Psalms 106:41Efe a holltodd y graig, a’r dyfroedd a ddylifodd; cerddasant ar hyd lleoedd sychion yn afonydd.