Llyfr y Barnwyr 5:18
Pobl Sabulon a roddes eu heinioes i farw; felly Nafftali ar uchelfannau y maes.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 35:23Meibion Leah; Reuben, cyntaf-anedig Jacob, a Simeon, a Lefi, a Judah, ac Issachar, a Zabulon.
Judges 4:6A hi a anfonodd, ac a alwodd am Barac mab Abinoam, o Cedes-Nafftali; ac a ddywedodd wrtho, Oni orchmynnodd ARGLWYDD DDUW Israel, gan ddywedyd, dos, a thyn tua mynydd Tabor, a chymer gyda thi ddeng mil o wŷr, o feibion Nafftali, ac o feibion Sabulon?
Judges 4:14A Debora a ddywedodd wrth Barac, Cyfod; canys hwn yw y dydd y rhoddodd yr ARGLWYDD Sisera yn dy law di: onid aeth yr ARGLWYDD allan o’th flaen di? Felly Barac a ddisgynnodd o fynydd Tabor, a deng mil o wŷr ar ei ôl.
Acts 20:24Ond nid wyf fi yn gwneuthur cyfrif o ddim, ac nid gwerthfawr gennyf fy einioes fy hun, os gallaf orffen fy ngyrfa trwy lawenydd, a’r weinidogaeth a dderbyniais gan yr Arglwydd Iesu, i dystiol¬aethu efengyl gras Duw.
Revelation 12:11A hwy a'i gorchfygasant ef trwy waed yr Oen, a thrwy air eu tystiolaeth hwynt; ac ni charasant eu heinioes hyd angau.