The Bible Software
Llyfr y Barnwyr · Beibl (1620)

Llyfr y Barnwyr 5

1Yna y canodd Debora a Barac mab Abinoam, y diwrnod hwnnw, gan ddywedyd,

2Am ddial dialeddau Israel, ac ymgymell o’r bobl, bendithiwch yr ARGLWYDD.

3Clywch, O frenhinoedd; gwrandewch, O dywysogion: myfi, myfi a ganaf i’r ARGLWYDD; canaf fawl i ARGLWYDD DDUW Israel.

4Oarglwydd, pan aethost allan o Seir, pan gerddaist o faes Edom, y ddaear a grynodd, a’r nefoedd a ddiferasant, a’r cymylau a ddefnynasant ddwfr.

5Y mynyddoedd a doddasant o flaen yr ARGLWYDD, sef y Sinai hwnnw, o flaen ARGLWYDD DDUW Israel.

6Yn nyddiau Samgar mab Anath, yn nyddiau Jael, y llwybrau a aeth yn anhygyrch, a’r fforddolion a gerddasant lwybrau ceimion.

7Y maestrefi a ddarfuant yn Israel: darfuant, nes i mi, Debora, gyfodi; nes i mi gyfodi yn fam yn Israel.

8Dewisasant dduwiau newyddion; yna rhyfel oedd yn y pyrth: a welwyd tarian na gwaywffon ymysg deugain mil yn Israel?

9Fy nghalon sydd tuag at ddeddfwyr Israel, y rhai fu ewyllysgar ymhiith y bobl. Bendithiwch yr ARGLWYDD.

10Y rhai sydd yn marchogaeth ar asynnod gwynion, y rhai sydd yn eistedd mewn barn, ac yn rhodio ar hyd y ffordd, lleferwch.

11Y rhai a waredwyd rhag trwst y saethyddion yn y lleoedd y tynnir dwfr, yno yr adroddant gyfiawnderau yr AR¬GLWYDD, cyfiawnderau tuag at y trefydd yn Israel: yna pobl yr ARGLWYDD a ânt i waered i’r pyrth.

12Deffro, deffro, Deborai deffro, deffro; traetha gân: cyfod, Barac, a chaethgluda dy gaethglud, O fab Abinoam.

13Yna y gwnaeth i’r hwn a adewir lywodraethu ar bendefigion y bobl: yr ARGLWYDD a roddes i mi lywodraeth ar gedyrn.

14O Effraim yr oedd eu gwreiddyn hwynt yn erbyn Amalec; ar dy ôl di, Benjamin, ymysg dŷ.bobl: y deddfwyr a ddaeth i waered o Machir, yr ysgrifenyddion o Sabulon.

15A thywysogion Issachar oedd gyda Debora; ie, Issachar, a Barac: efe a anfonwyd ar ei draed i’r dyffryn. Am neilltuaeth Reuben yr oedd mawr ofal calon.

16Paham yr arhosaist rhwng y corlannau, i wrando brefiadau y defaid? Am neilltuaeth Reuben yr oedd mawr ofal calon.

17Gilead a drigodd o’r tu hwnt i’r Iorddonen: a phaham yr erys Dan mewn llongau? Aser a drigodd wrth borthladd y môr, ac a arhosodd ar ei adwyau.

18Pobl Sabulon a roddes eu heinioes i farw; felly Nafftali ar uchelfannau y maes.

19A brenhinoedd a ddaethant, ac a ymladdasant; yna brenhinoedd Canaan a ymladdasant yn Taanach, wrth ddyfroedd Megido; ni chymerasant elw o arian.

20O’r nefoedd yr ymladdasant; y sêr yn eu graddau a ymladdodd yn erbyn Sisera.

21Afon Cison a’u hysgubodd hwynt, yr hen afon, yr afon Cison. Fy enaid, ti a sethraist gadernid.

22Yna y drylliodd carnau y meirch gan garlamau, carlamau ei gryfion ef.

23Melltigwch Meros, eb angel yr AR¬GLWYDD, gan felltigo melltigwch ei thrigolion: am na ddaethant yn gynhorthwy i’r ARGLWYDD, yn gynhorthwy i’r ARGLWYDD yn erbyn y cedyrn.

24Bendithier Jael, gwraig Heber y Cenead, goruwch gwragedd; bendithier hi goruwch gwragedd yn y babell.

25Dwfr a geisiodd efe, llaeth a roddes hithau: mewn ffiol ardderchog y dug hi ymenyn.

26Ei llaw a estynnodd hi at yr hoel, a’i llaw ddeau at forthwyl y gweithwyr; a hi a bwyodd Sisera, ac a thorrodd ei ben ef; gwanodd hefyd, a thrywanodd ei arlais ef.

27Wrth ei thraed yr ymgrymodd efe; syrthiodd, gorweddodd: wrth ei thraed yr ymgrymodd efe, y syrthiodd: lle yr ymgrymodd, yno y syrthiodd yn farw.

28Mam Sisera a edrychodd trwy ffenestr, ac a waeddodd trwy’r dellt, Paham yr oeda ei gerbyd ddyfod? paham yr arafodd olwynion ei gerbydau?

29Ei harglwyddesau doethion a’i hatebasant; hithau hefyd a atebodd iddi ei hun,

30Oni chawsant hwy? oni ranasant yr anrhaith, llances neu ddwy i bob gwr? anrhaith o wisgoedd symudliw i Sisera, anrhaith o wniadwaith symudliw, symud¬liw o wniadwaith o’r ddeutu, cymwys i yddfau yr anrheithwyr?

31Felly y darfyddo am dy holl elynion, O ARGLWYDD: a bydded y rhai a’i hoffant ef fel yr haul yn myned rhagddo yn ei rym. A’r wlad a gafodd lonydd ddeugain mlynedd.

← Llyfr y Barnwyr 4Read In The App, Free →Llyfr y Barnwyr 6 →

Study Llyfr y Barnwyr 5

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021