Llyfr y Barnwyr 5:3
Clywch, O frenhinoedd; gwrandewch, O dywysogion: myfi, myfi a ganaf i’r ARGLWYDD; canaf fawl i ARGLWYDD DDUW Israel.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
2Am ddial dialeddau Israel, ac ymgymell o’r bobl, bendithiwch yr ARGLWYDD.
Cross References
Genesis 6:17Ac wele myfi, ïe myfi, yn dwyn dyfroedd diluw ar y ddaear, i ddifetha pob cnawd, yr hwn y mae anadl einioes ynddo, oddi tan y nefoedd: yr hyn oll sydd ar y ddaear a drenga.
Exodus 31:6Ac wele, mi a roddais gyd âg ef Aholïab fab Achisamach, o lwyth Dan: ac y’nghalon pob doeth o galon y rhoddais ddoethineb i wneuthur yr hyn oll a orchymynais wrthyt.
Deuteronomy 32:1Duw yn ei anfon ef i fynydd Nebo, i weled y wlad, ac i farw. Gwrandewch, y nefoedd, a llefaraf; a chlywed y ddaear eiriau fy ngenau.
Judges 5:7Y maestrefi a ddarfuant yn Israel: darfuant, nes i mi, Debora, gyfodi; nes i mi gyfodi yn fam yn Israel.
1 Kings 19:10Ac efe a ddywedodd, Dygais fawr sel dros ARGLWYDD DDUW y lluoedd; oherwydd i feibion Israel wrthod dy gyfamod di, a distrywio dy allorau di, a lladd dy broffwydi â’r cleddyf: a mi fy hunan a adawyd; a cheisio y maent ddwyn fy einioes innau. º
Ezra 7:21A minnau y brenin Artacsercses ydwyf yn gosod gorchymyn i holl drysorwyr y tu hwnt i’r afon, beth bynnag a geisio Esra, offeiriad, ac ysgrifennydd deddf Duw y nefoedd, gennych, gwneler yn ebrwydd;