Llyfr y Barnwyr 6:16
A dywedodd yr ARGLWYDD wrtho ef, Diau y byddaf fi gyda thi; a thi a drewi y Midianiaid fel un gŵr.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 3:12Dywedodd yntau, Dïau y byddaf gyd â thi; a hyn a fydd arwydd i ti, mai myfi a’th anfonodd: Wedi i ti ddwyn fy mhobl allan o’r Aipht, chwi a wasanaethwch Dduw ar y mynydd hwn.
Joshua 1:5Ni saif neb o’th flaen di holl ddyddiau dy einioes: megis y bûm gyd â Moses, y byddaf gyd â thithau: ni’th adawaf, ac ni’th wrthodaf.
Judges 2:18A phan godai yr ARGLWYDD farnwyr arnynt hwy, yna yr ARGLWYDD fyddai gyda’r barnwr, ac a’u gwaredai hwynt o law eu gelynion holl ddyddiau y barnwr: canys yr ARGLWYDD a dosturiai wrth eu griddfan hwynt, rhag eu gorthrymwyr a’u cystuddwyr.
Ruth 2:4Ac wele. Boas a ddaeth o Bethle¬hem, ac a ddywedodd wrth y medelwyr, Yr ARGLWYDD a fyddo gyda chwi. Hwythau a ddywedasant wrtho ef, Yr ARGLWYDD a’th fendithio.
Isaiah 41:14Nac ofna, di bryf Jacob, gwŷr Israel; myfi a’th gynorthwyaf, medd yr ARGLWYDD, a’th Waredydd, Sanct Israel. º
Matthew 28:20Gan ddysgu iddynt gadw pob peth a’r a orchmynnais i chwi. Ac wele, yr ydwyf fi gyda chwi bob amser hyd ddiwedd y byd. Amen.