Llyfr y Barnwyr 2:18
A phan godai yr ARGLWYDD farnwyr arnynt hwy, yna yr ARGLWYDD fyddai gyda’r barnwr, ac a’u gwaredai hwynt o law eu gelynion holl ddyddiau y barnwr: canys yr ARGLWYDD a dosturiai wrth eu griddfan hwynt, rhag eu gorthrymwyr a’u cystuddwyr.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 6:6Ac edifarhaodd ar yr Arglwydd wneuthur o hono ef ddyn ar y ddaear, ac efe a ymofidiodd yn ei galon.
Exodus 3:12Dywedodd yntau, Dïau y byddaf gyd â thi; a hyn a fydd arwydd i ti, mai myfi a’th anfonodd: Wedi i ti ddwyn fy mhobl allan o’r Aipht, chwi a wasanaethwch Dduw ar y mynydd hwn.
Deuteronomy 32:36Canys yr Arglwydd a farna ei bobl, ac a edifarhâ am ei weision; pan welo ymadaw o’ u nerth, ac nad oes na gwarchaëedig, na gweddilledig.
Judges 3:9A meibion Israel a waeddasant ar yr ARGLWYDD: a’r ARGLWYDD a gododd achubwr i feibion Israel, yr hwn a’u hachubodd hwynt; sef Othniel mab Cenas, brawd Caleb, ieuangach nag ef.
Judges 6:16A dywedodd yr ARGLWYDD wrtho ef, Diau y byddaf fi gyda thi; a thi a drewi y Midianiaid fel un gŵr.
Judges 11:32Felly Jefftha a aeth drosodd at leibion Ammon i ymladd yn eu herbyn, a’r ARGLWYDD a’u rhoddodd hwynt yn ei law ef. º