Llyfr y Barnwyr 6:4
Ac a wersyllasant yn eu herbyn hwynt, ac a ddinistriasant gnwd y ddaear, hyd oni ddelych i Gasa; ac ni adawsant ddim ymborth yn Israel, na dafad, nac eidion, nac asyn.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 10:19Terfyn y Canaaneaid oedd hefyd o Sidon, ffordd yr elych i Gerar, hyd Gazah; y ffordd yr elych i Sodom, a Gomorrah, ac Admah, a Seboim, hyd Lesah.
Leviticus 26:16Minnau hefyd a wnaf hyn i chwi: i gosodaf yn oruchaf arnoch ddychryn, darfodedigaeth, a’r cryd poeth, y rhai a wna i’r llygaid ballu, ac a ofidiant eich eneidiau: a heuwch eich had yn ofer, canys eich gelynion a’i bwytty:
Deuteronomy 28:31Dy ŷch a leddir yn dy olwg, ac ni fwyttêi o hono: dy asyn a ddygir trwy drais o flaen dy wyneb, ac ni ddaw adref attat: dy ddefaid a roddir i’th elynion, ac ni bydd i ti achubydd.
Deuteronomy 28:51A hi a fwytty ffrwyth dy anifeiliaid, a ffrwyth dy ddaear, hyd oni’th ddinystrier: yr hon ni âd i ti ŷd, gwin, nac olew, cynnydd dy wartheg, na dïadellau dy ddefaid, hyd oni’th ddifetho di.
Jeremiah 5:17A hi a fwyty dy gynhaeaf di, a’th fara, yr hwn a gawsai dy feibion di a’th ferched ei fwyta: hi a fwyty dy ddefaid di a’th wartheg; hi a fwyty dy winwydd a’th ffigyswydd: dy ddinasoedd cedyrn, y rhai yr wyt yn ymddiried ynddynt, a dioda hi â’r cleddyf.
Obadiah 1:5Pe delai lladron atat, neu ysbeilwyr nos, (pa fodd y’th dorrwyd ymaith!) oni ladratasent hwy eu digon? pe delsai cynullwyr grawnwin atat, oni weddillasent rawn? 1: