Llyfr y Barnwyr 2:19
A phan fyddai farw y barnwr, hwy a ddychwelent, ac a ymlygrent yn fwy na’u tadau, gan fyned ar ôl duwiau dieithr, i’w gwasanaethu hwynt, ac i ymgrymu iddynt: ni pheidiasant â’u gweithredoedd eu hunain, nac â’u ffordd wrthnysig.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Joshua 24:31Ac Israel a wasanaethodd yr Arglwydd holl ddyddiau Josua, a holl ddyddiau yr henuriaid a fu fyw ar ol Josua, ac a wybuasent holl waith yr Arglwydd a wnaethai efe er Israel.
Judges 3:11A’r wlad a gafodd lonydd ddeugain mlynedd. A bu farw Othniel mab Cenas.
Judges 8:33A phan fu farw Gedeon, yna meib¬ion Israel a ddychwelasant, ac a butein¬iasant ar ôl Baalim; ac a wnaethant Baal-berith yn dduw iddynt. º
1 Samuel 15:23Canys anufudd-dod sydd fel pechod dewiniaeth; a throseddiad sydd anwiredd a delw-addoliaeth. Oherwydd i ti fwrw ymaith air yr ARGLWYDD, yntau a’th fwrw dithau ymaith o fod yn frenin. º
Nehemiah 9:28Ond pan lonyddodd arnynt, dychwelasant i wneuthur drygioni yn dy ŵydd di: am hynny y gadewaist hwynny yn llaw eu gelynion, y rhai a arglwyddiaethasant arnynt: eto pan ddychwelasant, a gweiddi arnat, tithau o’r nefoedd a wrandewaist, ac a’u gwaredaist hwynt yn ôl dy dosturiaethau, lawer o amseroedd.
Jeremiah 3:17Yn yr amser hwnnw y galwant Jerwsalem yn orseddfa yr ARGLWYDD; ac y cesglir ati yr holl genhedloedd, at enw yr ARGLWYDD, i Jerwsalem: ac ni rodiant mwy yn ôl cildynrwydd eu calon ddrygionus.