Llyfr Lefiticus 3:5
A llosged meibion Aaron hynny ar yr allor, ynghyd â’r offrwm poeth sydd ar y coed a fyddant ar y tân, yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 29:13Cymmer hefyd yr holl frasder a fydd yn gorchuddio y perfedd, a’r rhwyden a fyddo ar yr afu, a’r ddwy aren, a’r brasder a fyddo arnynt, a llosg ar yr allor.
Leviticus 1:9Ond ei berfedd a’i draed a ylch efe mewn dwfr: a’r offeiriad a lysg y cwbl ar yr allor, yn boeth-offrwm, yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.
Leviticus 1:17Hollted ef, a’i esgyll hefyd; etto na wahaned ef: a llosged yr offeiriad ef ar yr coed a fyddant ar y tân. Dyma boethoffrwm, aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.
Leviticus 4:35A thynned ei holl wer hi, fel y tynnir gwer oen yr aberth hedd; a llosged yr offeiriad hwynt ar yr allor, fel aberth tanllyd i’r Arglwydd: a gwnaed yr offeiriad gymmod drosto am ei bechod yr hwn a bechodd; a maddeuir iddo.
Leviticus 7:29Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Y neb a offrymmo ei aberth hedd i’r Arglwydd, dyged ei rodd o’i aberth hedd i’r Arglwydd.
Numbers 18:17Ond na phryn y cyntaf-anedig o eidion, neu gyntaf-anedig dafad, neu gyntaf-anedig gafr; sanctaidd ydynt hwy: eu gwaed a daenelli ar yr allor, a’u gwer a losgi yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.