The Bible Software
Llyfr Lefiticus · Beibl (1620)

Llyfr Lefiticus 10

1Esgus Aaron am ei throseddu. Yna Nadab ac Abihu, meibion Aaron, a gymme­rasant bob un ei thusser, ac a roddasant dân ynddynt, ac a osodasant arogl-darth ar hynny; ac a offrym­masant ger bron yr Arglwydd dân dïeithr yr hwn ni orchy­mynasai efe iddynt.

2A daeth tân allan oddi ger bron yr Arglwydd, ac a’u difaodd hwynt; a buant feirw ger bron yr Arglwydd.

3A dywedodd Moses wrth Aaron, Dyma yr hyn a lefarodd yr Arglwydd, gan ddywedyd, Mi a sanc­teiddir yn y rhai a nesânt attaf, a cher bron yr holl bobl y’m gogo­neddir. A thewi a wnaeth Aaron.

4A galwodd Moses Misael ac Elsaphan, meibion Uzziel, ewythr Aaron, a dywedodd wrthynt, Deuwch yn nês; dygwch eich brodyr oddi ger bron y cyssegr, allan o’r gwersyll.

5A nesâu a wnaethant, a’u dwyn hwynt yn eu peisiau allan o’r gwersyll; fel y llefa­rasai Moses.

6A dywedodd Moses wrth Aaron, ac wrth Eleazar ac wrth Ithamar ei feibion, Na ddïosgwch oddi am eich pennau, ac na rwygwch eich gwisgoedd: rhag i chwi farw, a dyfod digofaint ar yr holl gynnu­lleidfa: ond wyled eich brodyr chwi, holl dŷ Israel, am y llosgiad a losgodd yr Arglwydd.

7Ac nac ewch allan o ddrws pabell y cyfarfod; rhag i chwi farw: o herwydd bod olew enneiniad yr Arglwydd arnoch chwi. A gwnaeth­ant fel y llefarodd Moses.

8¶ Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Aaron, gan ddywedyd,

9Gwin a dïod gadarn nac ŷf di, na’th feibion gyd â thi, pan ddeloch i babell y cyfarfod; fel na byddoch feirw. Deddf dra­gywyddol trwy eich cenhed­laethau fydd hyn:

10A hynny er gwahanu rhwng cys­segredig a digys­segredig, a rhwng aflan a glân;

11Ac i ddysgu i feibion Israel yr holl ddeddfau a lefarodd yr Arglwydd wrthynt trwy law Moses.

12¶ A llefarodd Moses wrth Aaron, ac wrth Eleazar ac wrth Ithamar, y rhai a adawsid o’i feibion ef, Cymmerwch y bwyd-offrwm sydd y’ngweddill o ebyrth tanllyd yr Arglwydd, a bwyttêwch yn groyw ger llaw yr allor: o herwydd sanc­teiddiolaf yw.

13A bwyttêwch ef yn y lle sanctaidd: o herwydd dy ran di, a rhan dy feibion di, o ebyrth tanllyd yr Arglwydd, yw hyn: canys fel hyn y’m gorchy­mynwyd.

14Y barwyden gyhwfan hefyd, a’r ysgwyddog ddyr­chafael, a fwyttêwch mewn lle glân; tydi, a’th feibion, a’th ferched, ynghyd â thi: o herwydd hwynt a roddwyd yn rhan i ti, ac yn rhan i’th feibion di, o ebyrth hedd meibion Israel.

15Yr ysgwyddog ddyrchafael, a’r barwyden gyhwfan, a ddygant ynghyd âg ebyrth tanllyd o’r gwer, i gyhwfanu offrwm cyhwfan ger bron yr Arglwydd: a bydded i ti, ac i’th feibion gyd â thi, yn rhan dragy­wyddol; fel y gorchy­mynnodd yr Arglwydd.

16¶ A Moses a geisiodd yn ddyfal fwch yr aberth dros bechod; ac wele ef wedi ei losgi: ac efe a ddigiodd wrth Eleazar ac Ithamar, y rhai a adawsid o feibion Aaron, gan ddywedyd,

17Paham na fwyt­tasoch yr aberth dros bechod yn y lle sanctaidd; o herwydd sanctei­ddiolaf yw, a Duw a’i rhoddodd i chwi, i ddwyn anwiredd y gynnulleid­fa, gan wneuthur cymod drostynt, ger bron yr Arglwydd?

18Wele, ni ddygwyd ei waed ef i fewn y cyssegr: ei fwytta a ddylasech yn y cyssegr; fel y gorchy­mynnais.

19A dywedodd Aaron wrth Moses, Wele, heddyw yr offrym­masant eu haberth dros bechod, a’u poeth­offrwm, ger bron yr Arglwydd; ac fel hyn y digwydd­odd i mi; am hynny os bwyttawn aberth dros bechod heddyw, a fyddai hynny dda yng ngolwg yr Arglwydd?

20A phan glybu Moses hynny, efe a fu foddlawn.

← Llyfr Lefiticus 9Read In The App, Free →Llyfr Lefiticus 11 →

Study Llyfr Lefiticus 10

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627