Llyfr Lefiticus 16:24
A golched ei gnawd mewn dwfr yn y lle sanctaidd, a gwisged ei ddillad, ac aed allan, ac offrymmed ei boeth-offrwm ei hun, a phoeth-offrwm y bobl, a gwnaed gymmod drosto ei hun, a thros y bobl.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
25A llosged wer y pech-aberth ar yr allor.
Read all of Llyfr Lefiticus 16
Cross References
Exodus 28:4A dyma y gwisgoedd a wnant. Dwyfronneg, ac ephod, mantell hefyd, a phais o waith edau a nodwydd, meitr, a gwregys: felly y gwnant wisgoedd sanctaidd i Aaron dy frawd, ac i’w feibion, i offeiriadu i mi.
Leviticus 8:6A Moses a ddug Aaron a’i feibion, ac a’u golchodd hwynt â dwfr.
Leviticus 14:9A’r seithfed dydd bydded iddo eillio ei holl flew, sef ei ben, a’i farf, ac aeliau ei lygaid; ïe, eillied ei holl flew; a golched ei ddillad, a golched ei gnawd mewn dwfr; a glân fydd.
Leviticus 22:6A’r dyn a gyffyrddo âg ef, a fydd aflan hyd yr hwyr; ac na fwyttâed o’r pethau cyssegredig, oddi eithr iddo olchi ei gnawd mewn dwfr.
Hebrews 9:10Y rhai oedd yn sefyll yn unig ar fwydydd, a diodydd, ac amryw olchiadau, a defodau cnawdol, wedi eu gosod arnynt hyd amser y diwygiad.
Revelation 1:5Ac oddi wrth Iesu Grist, yr hwn yw y Tyst ffyddlon, y Cyntaf-anedig o’r meirw, a Thywysog brenhinoedd y ddaear. Iddo ef yr hwn a’n carodd ni, ac a’n golchodd ni oddi wrth ein pechodau yn ei waed ei hun,