Llyfr Lefiticus 22:6
A’r dyn a gyffyrddo âg ef, a fydd aflan hyd yr hwyr; ac na fwyttâed o’r pethau cyssegredig, oddi eithr iddo olchi ei gnawd mewn dwfr.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Lefiticus 22
Cross References
Leviticus 11:25A phwy bynnag a ddygo ddim o’u burgyn hwynt, golched ei ddillad; ac aflan fydd hyd yr hwyr.
Leviticus 11:28A’r hwn a ddygo eu burgyn hwynt, golched ei ddillad; a bydded aflan hyd yr hwyr: aflan ydynt i chwi.
Leviticus 11:32A phob dim y cwympo un o honynt arno, wedi marw, a fydd aflan; pob llestr pren, neu wisg, neu groen, neu sach, pob llestr y gwnelir dim gwaith ynddo, rhodder mewn dwfr, a bydded aflan hyd yr hwyr: felly y bydd glân.
Leviticus 11:40A’r hwn a fwytty o’i furgyn ef, golched ei ddillad; a bydded aflan hyd yr hwyr; a’r hwn a ddygo ei furgyn ef, golched ei ddillad; a bydded aflan hyd yr hwyr.
Leviticus 16:24A golched ei gnawd mewn dwfr yn y lle sanctaidd, a gwisged ei ddillad, ac aed allan, ac offrymmed ei boeth-offrwm ei hun, a phoeth-offrwm y bobl, a gwnaed gymmod drosto ei hun, a thros y bobl.
Haggai 2:13A Haggai a ddywedodd, Os un a fo aflan gan gorff marw â gyffwrdd â dim o'r rhai hyn, a fyddant hwy aflan? A’r offeiriaid a atebasant ac a ddywedasant, Byddant aflan.