Llyfr Lefiticus 18:30
Am hynny cedwch fy neddf i, heb wneuthur yr un o’r deddfau ffiaidd a wnaed o’ch blaen chwi, ac nac ymhalogwch ynddynt: myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Lefiticus 18
Cross References
Leviticus 18:26Ond cedwch chwi fy neddfau a’m barnedigaethau i, ac na wnewch ddim o’r holl ffiaidd bethau hyn; na’r prïodor, na’r dïeithrddyn sydd yn ymdaith yn eich mysg:
Leviticus 22:9Ond cadwant fy neddf i, ac na ddygant bechod bob un arnynt eu hunain, i farw o’i blegid, pan halogant hi: myfi yw yr Arglwydd eu sancteiddydd hwynt.
Deuteronomy 12:30Gwylia arnat rhag ymfaglu o honot ar eu hol hwynt, wedi eu dinystrio hwynt o’th flaen di; a rhag ymorol am eu duwiau hwynt, gan ddywedyd, Pa fodd y gwasanaethodd y cenhedloedd hyn eu duwiau? myfi a wnaf felly hefyd.
Deuteronomy 18:9¶ Pan elych di i’r tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti, na ddysg wneuthur yn ol ffieidd-dra y cenhedloedd hynny.
1 Kings 14:24A gwŷr sodomiaidd oedd yn y wlad: gwnaethant hefyd yn ôl holl ffieidd-dra’r cenhedloedd a fwriasai yr ARGLWYDD allan o flaen meibion Israel. º