The Bible Software
Llyfr Lefiticus · Beibl (1620)

Llyfr Lefiticus 18

1Chwantau anghyfreithlawn. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

2Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Myfi yw yr Arglwydd eich Duw.

3Na wnewch yn ol gweithredoedd gwlad yr Aipht, yr hon y trigasoch ynddi; ac na wnewch yn ol gweithredoedd gwlad Canaan, yr hon yr ydwyf yn eich dwyn chwi iddi; ac na rodiwch yn eu deddfau hwynt.

4Fy marnedigaethau i a wnewch, a’m deddfau a gedwch, i rodio ynddynt: myfi yw yr Arglwydd eich Duw.

5Ië, cedwch fy neddfau a’m barnedigaethau: a’r dyn a’u cadwo, a fydd byw ynddynt: myfi yw yr Arglwydd.

6¶ Na nesâed neb at gyfnesaf ei gnawd, i ddinoethi eu noethni: myfi yw yr Arglwydd.

7Noethni dy dad, neu noethni dy fam, na ddinoetha: dy fam yw hi, na ddinoetha ei noethni.

8Na ddinoetha noethni gwraig dy dad: noethni dy dad yw.

9Noethni dy chwaer, merch dy dad, neu ferch dy fam, yr hon a anwyd gartref, neu a anwyd allan; na ddinoetha eu noethni hwynt.

10Noethni merch dy fab, neu ferch dy ferch; na ddinoetha eu noethni hwynt: canys dy noethni di ydyw.

11Noethni merch gwraig dy dad, plentyn dy dad, dy chwaer dithau yw hi; na ddinoetha ei noethni hi.

12Na ddinoetha noethni chwaer dy dad: cyfnesaf dy dad yw hi.

13Na ddinoetha noethni chwaer dy fam: canys cyfnesaf dy fam yw hi.

14Na noetha noethni brawd dy dad; sef na nesâ at ei wraig ef: dy fodryb yw hi.

15Na noetha noethni dy waudd: gwraig dy fab yw hi; na noetha ei noethni hi.

16Na ddinoetha noethni gwraig dy frawd: noethni dy frawd yw.

17Na noetha noethni gwraig a’i merch; na chymmer ferch ei mab hi, neu ferch ei merch hi, i noethi ei noethni hi: ei chyfnesaf hi yw y rhai hyn: ysgelerder yw hyn.

18Hefyd na chymmer wraig ynghyd â’i chwaer, i’w chystuddio hi, gan noethi noethni honno gyd â’r llall, yn ei byw hi.

19Ac na nesâ at wraig yn neillduaeth ei haflendid, i noethi ei noethni hi.

20Ac na chyd-orwedd gyd â gwraig dy gymmydog, i fod yn aflan o’i phlegid.

21Ac na ddod o’th had i fyned trwy dân i Moloch: ac na haloga enw dy Dduw: myfi yw yr Arglwydd.

22Ac na orwedd gyd â gwrryw, fel gorwedd gyd â benyw: ffieidd-dra yw hynny.

23Ac na chyd-orwedd gyd âg un anifail, i fod yn aflan gyd âg ef; ac na safed gwraig o flaen un anifail i orwedd dano: cymmysgedd yw hynny.

24Nac ymhalogwch yn yr un o’r pethau hyn: canys yn y rhai hyn oll yr halogwyd y cenhedloedd yr ydwyf yn eu gyrru allan o’ch blaen chwi:

25A’r wlad a halogwyd: am hynny yr ydwyf yn ymweled â’i hanwiredd yn ei herbyn, fel y chwydo y wlad ei thrigolion.

26Ond cedwch chwi fy neddfau a’m barnedigaethau i, ac na wnewch ddim o’r holl ffiaidd bethau hyn; na’r prïodor, na’r dïeithrddyn sydd yn ymdaith yn eich mysg:

27(O herwydd yr holl ffiaidd bethau hyn a wnaeth gwŷr y wlad, y rhai a fu o’ch blaen, a’r wlad a halogwyd;)

28Fel na chwydo y wlad chwithau, pan halogoch hi, megis y chwydodd hi y genedl oedd o’ch blaen.

29Canys pwy bynnag a wnel ddim o’r holl ffiaidd bethau hyn; torrir ymaith yr eneidiau a’u gwnelo o blith eu pobl.

30Am hynny cedwch fy neddf i, heb wneuthur yr un o’r deddfau ffiaidd a wnaed o’ch blaen chwi, ac nac ymhalogwch ynddynt: myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi.

← Llyfr Lefiticus 17Read In The App, Free →Llyfr Lefiticus 19 →

Study Llyfr Lefiticus 18

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627