Llyfr Lefiticus 2:11
Na wneler yn lefeinllyd ddim bwyd-offrwm a offrymmoch i’r Arglwydd; canys dim surdoes, na mêl, ni losgwch yn offrwm tanllyd i’r Arglwydd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
12¶ Offrymmwch i’r Arglwydd offrwm y blaen-ffrwyth; ond na losger hwynt ar yr allor yn arogl peraidd.
Cross References
Exodus 12:19Na chaffer surdoes yn eich tai saith niwrnod: canys pwy bynnag a fwyttao fara lefeinllyd, yr enaid hwnnw a dorrir ymaith o gynnulleidfa Israel, yn gystal y dïeithr a’r prïodor.
Exodus 34:25Nac offrymma waed fy aberth gyd â bara lefeinllyd; ac nac arhôed aberth gwyl y Pasc dros nos hyd y bore.
Leviticus 6:16A’r gweddill o hono a fwytty Aaron a’i feibion: yn groyw y bwyttêir ef: yn y lle sanctaidd o fewn cynteddfa pabell y cyfarfod y bwyttânt ef.
Proverbs 25:16Pan gaffech fêl, bwyta a’th wasanaetho: rhag wedi dy lenwi ohono, i ti ei chwydu ef.
Matthew 16:6¶ A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Edrychwch ac ymogelwch rhag surdoes y Phariseaid a’r Sadwceaid.
Mark 8:15Yna y gorchmynnodd efe iddynt, gan ddywedyd, Gwyliwch, ymogelwch rhag surdoes y Phariseaid, a surdoes Herod.