The Bible Software
Llyfr Lefiticus · Beibl (1620)

Llyfr Lefiticus 3

1ai gafr. Ac os aberth hedd fydd ei offrwm ef, pan offrymmo efe eidion, offrymmed ef gerbron yr Arglwydd yn berffeith-gwbl; pa un bynnag ai yn wrryw ai yn fenyw.

2A rhodded ei law ar ben ei offrwm, a lladded ef wrth ddrws pabell y cyfarfod; a thaenelled meibion Aaron, yr offeiriaid, y gwaed ar yr allor o amgylch.

3Ac offrymmed o’r aberth hedd aberth tanllyd i’r Arglwydd; sef y weren fol, a’r holl wer a fydd ar y perfedd.

4A’r ddwy aren, a’r gwer a fyddo arnynt hyd y tenewyn, a’r rhwyden hefyd a fydd oddi ar yr afu, a dỳn efe ymaith, ynghyd â’r arennau.

5A llosged meibion Aaron hynny ar yr allor, ynghyd â’r offrwm poeth sydd ar y coed a fyddant ar y tân, yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.

6¶ Ac os o’r praidd y bydd yr hyn a offrymmo efe yn hedd-aberth i’r Arglwydd, offrymmed ef yn wrryw neu yn fenyw perffeith-gwbl.

7Os oen a offrymma efe yn ei offrwm; yna dyged ger bron yr Arglwydd.

8A gosododd ei law ar ben ei offrwm, a lladded ef o flaen pabell y cyfarfod; a thaenelled meibion Aaron ei waed ef ar yr allor oddi amgylch.

9Ac offrymmed o’r aberth hedd yn aberth tanllyd i’r Arglwydd; ei weren, a’r gloren i gyd: torred hi ymaith wrth asgwrn y cefn, ynghyd â’r weren fol, a’r holl wer a fyddo ar y perfedd;

10A’r ddwy aren, a’r gwer a fyddo arnynt, hyd y tenewyn, a’r rhwyden oddi ar yr afu, ynghyd â’r arennau, a dỳn efe ymaith.

11A llosged yr offeiriad hyn ar yr allor: bwyd-aberth tanllyd i’r Arglwydd ydyw.

12¶ Ac os gafr fydd ei offrwm ef; dyged hi ger bron yr Arglwydd.

13A gosoded ei law ar ei phen, a lladded hi o flaen pabell y cyfarfod; a thaenelled meibion Aaron ei gwaed hi ar yr allor o amgylch.

14Ac offrymmed o hynny ei offrwm o aberth tanllyd i’r Arglwydd; sef y weren fol, a’r holl wer a fyddo ar y perfedd;

15A’r ddwy aren, a’r gwer a fyddo arnynt, hyd y tenewyn, a’r rhwyden oddi ar yr afu, ynghyd â’r arennau, a dỳn efe ymaith.

16A llosged yr offeiriad hwynt ar yr allor: bwyd-aberth tanllyd o arogl peraidd ydyw. Yr holl wer sydd eiddo yr Arglwydd.

17Deddf dragywyddol trwy eich cenhedlaethau yn eich holl anneddau, yw: na fwyttaoch ddim gwer, na dim gwaed.

← Llyfr Lefiticus 2Read In The App, Free →Llyfr Lefiticus 4 →

Study Llyfr Lefiticus 3

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627