Llyfr Lefiticus 5:2
Os dyn a gyffwrdd â dim aflan, pa un bynnag ai burgyn bwystfil aflan, ai burgyn anifail aflan, ai burgyn ymlusgiad aflan; er bod y peth yn guddiedig oddi wrtho ef, aflan ac euog yw efe.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Leviticus 5:4Neu os dyn a dwng, gan draethu â’r gwefusau ar wneuthur drwg, neu wneuthur da; beth bynnag a draetho dyn trwy lw, a’r peth yn guddiedig rhagddo; pan gaffo efe wybod, euog yw o un o hyn.
Leviticus 7:21Ac os dyn a gyffwrdd â dim aflan, sef âg aflendid dyn, neu âg anifail aflan, neu âg un ffieiddbeth aflan, a bwytta o gig yr hedd-aberth, yr hwn a berthyn i’r Arglwydd; yna y torrir ymaith y dyn hwnnw o fysg ei bobl.
Leviticus 11:24Ac am y rhai hyn y byddwch aflan: pwy bynnag a gyffyrddo â’u burgyn hwynt, a fydd aflan hyd yr hwyr.
Deuteronomy 14:8Yr hwch hefyd, er ei bod yn fforchogi yr ewin, ac heb gnoi cil, aflan yw i chwi: na fwyttêwch o’u cig hwynt, ac na chyffyrddwch â’u burgyn hwynt.
Isaiah 52:11S! Ciliwch, ciliwch, ewch allan odd! yno, na chyffyrddwch â dim halogedig; ewch allan o’i chanol; ymlanhewch, y rhai a ddygwch lestri yr ARGLWYDD. º
Luke 11:44Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariheaid, ragrithwyr! am eich bod fel beddau anamlwg, a’r dynion a rodiant arnynt heb wybod oddi wrthynt.