Llyfr Lefiticus 7:21
Ac os dyn a gyffwrdd â dim aflan, sef âg aflendid dyn, neu âg anifail aflan, neu âg un ffieiddbeth aflan, a bwytta o gig yr hedd-aberth, yr hwn a berthyn i’r Arglwydd; yna y torrir ymaith y dyn hwnnw o fysg ei bobl.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
22¶ Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,
Cross References
Genesis 17:14A’r gwrryw dïenwaededig, yr hwn ni enwaeder cnawd ei ddïenwaediad, torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg ei bobl: oblegid efe a dorrodd fy nghyfammod i.
Exodus 12:19Na chaffer surdoes yn eich tai saith niwrnod: canys pwy bynnag a fwyttao fara lefeinllyd, yr enaid hwnnw a dorrir ymaith o gynnulleidfa Israel, yn gystal y dïeithr a’r prïodor.
Leviticus 5:2Os dyn a gyffwrdd â dim aflan, pa un bynnag ai burgyn bwystfil aflan, ai burgyn anifail aflan, ai burgyn ymlusgiad aflan; er bod y peth yn guddiedig oddi wrtho ef, aflan ac euog yw efe.
Leviticus 7:20A’r dyn a fwyttao gig yr hedd-aberth, yr hwn a berthyn i’r Arglwydd, a’i aflendid arno; torrir ymaith y dyn hwnnw o fysg ei bobl.
Leviticus 7:27Pob enaid a fwyttao ddim gwaed, torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg ei bobl.
Leviticus 11:20Pob ehediad a ymlusgo ac a gerddo ar bedwar troed, ffieidd-dra yw i chwi.